Damwain awyren: Un wedi marw
- Cyhoeddwyd
Mae un person wedi marw wedi i awyren fechan syrthio i'r ddaear ym maes awyr Caernarfon ger Dinas Dinlle.
Mae'r maes awyr wedi cadarnhau bod yr awyren wedi syrthio yno am 11:27am fore Sul.
Dywedodd Heddlu'r Gogledd bod un dyn wedi marw yn y fan a'r lle.
Mae dau arall wedi cael eu cludo i Ysbyty Gwynedd ym Mangor, ac fe ddywed yr heddlu bod y ddau mewn cyflwr difrifol iawn.
Mae swyddogion yr heddlu yn cysuro'r teulu sy'n hanu o Sir Gaerhirfryn.
Apêl
Dywedodd y Prif Arolygydd Darren Wareing: "Mae'r ymchwiliad i'r digwyddiad yn mynd rhagddo ac fe fyddwn yn apelio ar unrhyw un a welodd yr awyren wrth iddi gyrraedd y llain lanio ym Maes Awyr Caernarfon i gysylltu gyda ni."
Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth ffonio'r heddlu ar 101.
Dywedodd Gwasanaeth Ambiwlans Cymru bod Ambiwlans Awyr Cymru a cherbyd arall wedi bod ar y safle.
Mae un dyn yn ei 60au wedi diodde' anafiadau difrifol i'w goesau, a phlentyn gydag anafiadau i'w ben a'i abdomen.
Cafodd y ddau eu cludo i Ysbyty Gwynedd ym Mangor.
Mae'n ymddangos bod yr awyren wedi troi drosodd wrth geisio glanio.
Mae llefarydd ar ran yr Uned Ymchwilio i Ddamweiniau Awyr wedi dweud: "Rydym yn ymwybodol o'r digwyddiad ac wedi gyrru tîm i gynnal archwiliad cychwynnol o'r digwyddiad."