Abertawe 0-3 Fulham

Abertawe 0-3 Fulham

Collodd Abertawe eu gêm olaf yn y tymor yn yr Uwchgynghrair o unig gôl y gêm ar Stadiwm Liberty.

Er hynny, mae tîm Michael Laudrup wedi mwynhau tymor ardderchog yn eu hail dymor yn y brif adran, ac wedi sicrhau lle yng Nghynghrair Europa y tymor nesaf drwy ennill Cwpan Capital One.

Doedd y gêm ar y Liberty ddydd Sul o ddim pwysigrwydd i'r un o'r ddau dîm.

Abertawe oedd yn mwynhau mwyafrif y meddiant, ond Fulham aeth ar y blaen yn yr hanner cyntaf diolch i ergyd Alex Kacaniklic wedi 22 munud.

Y tîm cartref ddaeth yn ôl yn gryf gan greu sawl cyfle da am weddill y cyfnod cyntaf, ac fe barodd y fantais yn yr ail hanner, ond roedd Mark Schwartzer yn cael gêm ardderchog yn y gôl i'r ymwelwyr.

Yna deng munud cyn y chwib olaf fe gafodd Fulham gyfle prin i wrthymosod ac fe sgoriodd Dimitar Berbatov i ddyblu mantais yr ymwelwyr.

Ac i goroni diwrnod da i'r ymwelwyr fe wnaethon nhw'r un peth yn y funud olaf gan roi cyfle i Urby Emanuelson i sgorio trydedd i Fulham.

Mae'r canlyniad yn golygu bod Abertawe wedi gorffen y tymor yn y nawfed safle - eu safle gorau ers 30 mlynedd.

TABL UWCHGYNGHRAIR LLOEGR - Tabl terfynol 2012-13
Gemau Gwahaniaeth Goliau Pwyntiau
1. Man United 38 +43 89
2. Man City 38 +32 78
3. Chelsea 38 +36 75
4. Arsenal 38 +35 73
9 ABERTAWE 38 -4 46

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.