Tair cenhedlaeth mewn damwain
- Published
Roedd tair cenhedlaeth o'r un teulu o ardal Blackburn mewn damwain awyren ym Maes Awyr Caernarfon fore Sul.
Fe syrthiodd yr awyren fechan i'r ddaear, gan ladd dyn yn y fan a'r lle.
Y dyn oedd Iain Nuttall, gyyrwr lori 37 oed o Blackburn.
Disgwylir i bost-mortem gael ei gynnal ddydd Mercher.
Mae ei fab pump oed mewn cyflwr difrifol yn Ysbyty Gwynedd ym Mangor ar ôl cael anafiadau i'w ben a'i stumog.
Difrifol iawn
Cafodd y peilot 62 oed, tad Mr Nuttall, anafiadau i'w goesau ac mae mewn cyflwr difrifol iawn mewn uned arbenigol.
Dywedodd peilot nad oedd yn cofio neb yn cael ei anafu yn y chwarter canrif r oedd wedi bod yn hedfan awyrennau i mewn ac allan o Faes Awyr Caernarfon.
Digwyddiad "anghyffredin" oedd y ddamwain fore Sul ger Dinas Dinlle, meddai Robert Jones, aelod o Glwb Hedfan Mona.
'Yn fwy serth'
Dywedodd Mr Jones ar y Post Cyntaf fore Llun: "Mae dod i lawr i'r llain yng Nghaernarfon yn fwy serth nac arfer oherwydd mae carafannau yno a hefyd mae yna linell drydan ar draws y coed.
"Wedyn os ydy rhywbeth yn digwydd i'r peiriant, er enghraifft, a bod rhywun ddim yn gallu codi trwyn yr awyren yna mae modd taro rhywbeth neu lanio yn galed."
Fwy na thebyg, meddai, roedd y maes awyr yn brysur ddydd Sul am fod y tywydd yn braf a rhyw 30 neu 40 o awyrennau wedi ymweld â Chaernarfon.
Ychwanegodd bod y cyfleusterau yn y maes awyr "gyda'r gorau yn y wlad".
'O fewn eiliadau'
Roedd gwasanaethau brys ar y maes awyr ei hun a phan gafodd ddamwain fach ddwy flynedd yn ôl mi gafodd o gymorth yn gyflym.
"Mi stopiodd yr awyren yn sydyn ac mi ddaeth y gwasanaethau brys yna o fewn eiliadau i helpu."
Toc cyn 11.30am y digwyddodd y ddamwain fore Sul.
Deellir fod y teulu wedi bwriadu hedfan o Blackpool i Gaernarfon a'r Trallwng cyn dychwelyd i Blackpool.
Mae ymchwilwyr damweiniau awyr yr AAIB wedi bod ar y safle ers 8.00am fore Llun yn casglu tystiolaeth.
Maen nhw'n gweithio gyda Heddlu'r Gogledd er mwyn ceisio darganfod achos y digwyddiad.
Mae'r ymchwilwyr wedi eu gweld yn archwilio'r coed mewn parc gwyliau y drws nesaf i'r maes awyr ar ôl adroddiadau bod yr awyren wedi cyffwrdd y canghennau wrth iddi geisio glanio.
Trylwyr
Roedd yr awyren wedi troi drosodd wrth iddi ddod i stop ychydig fetrau oddi wrth ffens y maes awyr.
Doedd hi ddim yn agos at y llain lanio.
Dywedodd arbenigwyr eu bod yn gobeithio mynd â'r awyren i Farnborough er mwyn cynnal ymchwiliad trylwyr.
Dywedodd y Prif Arolygydd Darren Wareing: "Mae'r ymchwiliad yn mynd rhagddo ac fe fyddwn yn apelio at unrhyw un welodd yr awyren wrth iddi gyrraedd y llain lanio ym Maes Awyr Caernarfon i gysylltu gyda ni."
Dylai unrhyw un â gwybodaeth ffonio'r heddlu ar 101.
Straeon perthnasol
- Published
- 19 Mai 2013
- Published
- 20 Mai 2013