Y Llewod 59 Y Barbariaid 8

Mike Phillips Image copyright BBC Sport
Image caption Mewnwr Cymru, Mike Phillips yn sgorio un o ddau gais ym muddugoliaeth gyfforddus y Llewod yn erbyn y Barbariaid

Roedd yna fuddugoliaeth gyfforddus i'r Llewod yng ngêm gynta'r daith yn erbyn y Barbariaid yn Hong Kong.

Fe sgoriodd y Llewod 8 cais gan gynnwys saith ohonyn nhw i'r Cymry. Y gwyddel a'r capten Paul O'Connell gafodd y cais cyntaf cyn i'r mewnwr Mike Phillips groesi ddwywaith.

Roedd yna ddau gais hefyd i asgellwr y Gleision Alex Cuthbert.

Canolwr y Scarlets, Jonathan Davies, blaen asgellwr y Dreigiau, Dan Lydiate a chlo'r Gweilch Alun Wyn Jones gafodd y ceisiau eraill.

Adroddiad i ddilyn ..

Y Llewod: S Hogg (Alban), A Cuthbert (Cymru), J Davies (Cymru), J Roberts (Cymru), S Maitland (Alban); O Farrell (Lloegr), M Phillips (Cymru), M Vunipola (Lloegr), R Hibbard (Cymru), A Jones (Cymru), R Gray (Alban), P O'Connell (Iwerddon, capten), D Lydiate (Cymru), J Tipuric (Cymru), T Faletau (Cymru).

Eilyddion: T Youngs (Lloegr), C Healy (Iwerddon), M Stevens (Lloegr), A-W Jones (Cymru), J Heaslip (Iwerddon), C Murray (Iwerddon), J Sexton (Iwerddon), G North (Cymru)

Y Barbariaid: Jared Payne (Ulster), Joe Rokocoko (Seland Newydd ), Elliot Daly (London Wasps), Casey Laulala (Seland Newydd), Takudzwa Ngwenya (America), Nick Evans (Seland Newydd), Dimitri Yachvili (Ffrainc); Paul James (Cymru), Schalk Brits (De Affrica), Martin Castrogiovanni (Yr Eidal), Marco Wentzel (De Affrica), Dean Mumm (Awstralia), Samu Manoa (America), Sam Jones (London Wasps), Sergio Parisse (Yr Eidal, capten).

Eilyddion: Leonardo Ghiraldini (Yr Eidal), Duncan Jones (Cymru), Andrea Lo Cicero (Yr Eidal), Jim Hamilton (Alban), Imanol Harinordoquy (Ffrainc), Kahn Fotuali'i (Samoa), James Hook (Cymru), Mike Tindall (Lloegr)

Dyfarnwr: Steve Walsh (Awstralia).