Galw am ffrwyno cyflogau penaethiaid

Protestio Cyngor Caerffili
Image caption Protestio ynglŷn â chodiad cyflog dadleuol uwch swyddogion Cyngor Caerffili

Mae Llywodraeth Cymru yn cael ei chyhuddo o beidio gwneud digon i ffrwyno cyflogau mawr prif weithredwyr y cynghorau sir.

Mae gweinidogion wedi gwrthod galwad gan aelodau'r gwrthbleidiau i sefydlu panel annibynnol i fod yn gyfrifol am dâl uwch swyddogion yr awdurdodau lleol

Yn ôl Rhodri Glyn Thomas, AC Plaid Cymru Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr, mae cyflogau penaethiaid y cynghorau erbyn hyn "y tu hwnt i bob rheolaeth".

Ond mae Llywodraeth Cymru yn dweud mai mater lleol yw'r cyflogau ac y byddai hi yn amhriodol i ymyrryd yn y mater.

Roedd y gwrthbleidiau yn y Cynulliad wedi ceisio cynnig gwelliant er mwyn ceisio rhoi'r cyfrifoldeb am dâl prif weithredwyr yr awdurdodau lleol yng ngofal panel annibynnol. Ond cafodd yr ymdrechion hynny eu gwrthod gan y Llywodraeth.

Mae cyfundrefn debyg yn bodoli eisoes ar gyfer treuliau cynghorwyr. Mae'r taliadau rheiny yn cael eu gosod yn ganolog.

Cafodd y gwelliant i'r Mesur Democratiaeth Leol ei gyflwyno gan Rhodri Glyn Thomas. Dywedodd am y sefyllfa wrth raglen BBC Cymru Sunday Politics Wales,: "Mae hi y tu hwnt i bob rheolaeth.

"Fel rydym ni wedi ei weld yn ddiweddar yn y wasg, mae yna nifer o brif weithredwyr, uwch reolwyr, yn ennill llawer mwy o gyflog na'r prif weinidog yma, a llawer mwy na phrif weinidog y DU"

Dywedodd Mr Thomas bod cynnig "cyflogau afresymol" yn "ffordd ddiog o gyflogi pobl", yn hytrach na datblygu rheolwyr sydd eisoes yn gweithio i'r cynghorau.

Ym mis Mawrth, cafodd prif weithredwr Cyngor Caerffili ei atal o'i waith tra roedd yr awdurdod yn cynnal ymchwiliad i'r modd y cafodd e godiad cyflog dadleuol o £25,400.

Ar hyn o bryd mae Jon House, prif weithredwr Caerdydd sef awdurdod lleol mwyaf Cymru, yn ennill bron i £184,000. Mae hynny £50,000 yn fwy na chyflog y Prif Weinidog Carwyn Jones.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru:

"Mater i'r cynghorau unigol yw cyflogau awdurdodau lleol. Mae eu haelodau yn atebol i'w hetholwyr am y penderfyniadau y maen nhw yn eu gwneud."

"Rydym ni yn cydnabod bod angen i awdurdodau lleol ddod o hyd i fan canol rhwng dod o hyd i'r unigolyn iawn a chynnig gwerth am arian i'r trethdalwr. Mi fydd y balans hwnnw yn wahanol o ardal i ardal ac yn dibynnu ar ffactorau lleol"

Ychwanegodd y llefarydd: "Rydym ni hefyd yn ymwybodol bod recriwtio uwch swyddogion yn farchnad gystadleuol.

"Am y rhesymau yma, rydym ni yn teimlo na fyddai hi'n briodol i gyflogau uwch swyddogion o fewn cynghorau gael ei gosod ar lefel cenedlaethol."

Dywedodd y dylai penderfyniadau'r awdurdodau lleol fod yn "agored a thryloyw" a'i bod hi'n ddyletswydd ar gynghorau i gyhoeddi polisïau tâl ar gyfer pob gweithiwr.

Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru wedi ymateb hefyd. Dywedodd llefarydd bod tâl uwch swyddogion yn adlewyrchu'r cyfrifoldebau a'r sialensiau sy'n eu hwynebu wrth ddelio gyda chyllidebau sylweddol.

Ond, meddai'r llefarydd: "Mewn cymhariaeth gyda rhannau eraill o'r sector cyhoeddus yng Nghymru, mae pecynnau cyflog llywodraeth leol yn is yn y cynghrair tâl i swyddogion gweithredol, wrth ystyried y cyfrifoldebau cymhleth y mae prif weithredwyr yn gorfod ymgymryd â hwy."

"Mae cyflog cystadleuol yn hanfodol os ydym am annog yr ymgeiswyr gorau i ymgymryd gyda'r dyletswyddau cyhoeddus anodd ac allweddol yma."

Ychwanegodd y byddai rhagor o ddyletswyddau yn dod i ran uwch swyddogion oherwydd y pwysau ar awdurdodau lleol i arbed arian a thorri yn ôl ar swyddi rheoli.

Dywedodd nad yw'r rhan fwyaf o uwch swyddogion wedi cael codiad cyflog ers pum mlynedd.

Mae Sunday Politics ar BBC One Wales am 11:00 Ddydd Sûl, 2 Mehefin