Morgannwg yn colli eto

Clwb Criced Morgannwg Image copyright Glamorgan CCC

Mae Morgannwg wedi colli eto yng nghystadleuaeth 40 pelawd y YB40 yn erbyn Gwlad yr Haf.

Gwlad yr Haf alwodd yn gywir gan wahodd yr ymwelwyr i fatio gyntaf.

Roedd sgôr Morgannwg o 245 am 9 yn un teilwng ac yn cynnwys cyfraniad campus o 75 heb fod allan i Ben Wright ynghyd â 46 gan Marcus North.

Wrth i Wlad yr haf ymateb daeth cyfraniadau sylweddol o 72 gan Peter Trego a 51 gan Dean Elgar yn gynnar yn y batiad, ond yna fe gipiodd Morgannwg gyfres o wicedi i roi gobaith am fuddugoliaeth.

Ond yna daeth Craig Meschede a Max Waller at ei gilydd a chreu partneriaeth o 43 i ennill y gêm gyda bron dwy belwad yn weddill.

Pencampwriaeth YB 40 - Gwlad yr Haf v.Morgannwg; Taunton:-

Sgôr terfynol

Morgannwg = 245 am 9 wiced (40 pelawd)

Gwlad yr Haf = 246 am 7 wiced (38.2 pelawd)

Gwlad yr Haf yn fuddugol o dair wiced.