Cartrefi: Teuluoedd am weld cyfiawnder
- Cyhoeddwyd

Mae'r teuluoedd yng nghanol yr ymchwiliad mwyaf ym Mhrydain i esgeulustod mewn cartrefi gofal wedi galw am gyfiawnder i'r dioddefwyr.
Ychwanegodd Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru alwad am ymchwiliad cyhoeddus i'r hyn y mae'n disgrifio fel "cyfres o fethiannau".
Fe gostiodd 'Operation Jasmine' gan Heddlu Gwent £11 miliwn wrth ymchwilio i esgeulustod, ac fe ddaeth 100 o ddioddefwyr honedig i'r amlwg.
Ond daeth yr ymchwiliad saith mlynedd i ben yn ddisymwth yn gynharach eleni wrth i'r achos yn erbyn y rhai gafodd eu cyhuddo o esgeulustod ddymchwel.
'Briwiau erchyll'
Un o brif achosion yr ymchwiliad oedd un Evelyn Jones a fu'n byw yng nghartref Brithdir yn Nhredegar Newydd.
Wrth siarad am y tro cyntaf am yr hyn ddigwyddodd, dywedodd ei theulu eu bod wedi synnu pan aed â Mrs Jones i'r ysbyty ac fe welodd staff yno fod ganddi friwiau pwysau erchyll ar ei chorff.
Dywedodd ei hwyres Ruth Phillips: "Roedd yn ymddangos fel llosg drwg iawn. Roedd yn ddu a glas ac yn llidio ar yr ochrau.
"Roedd dau dwll yn ardal bôn asgwrn y cefn o faint darn dwy geiniog.
"Roedd yr heintio cynddrwg fel fy mod yn gweld esgyrn y cefn drwy'r tyllau. Dydw i ddim yn hoffi meddwl faint o boen a dioddefaint a gafodd i fynd i'r cyflwr yna."
Lladrad
Ym mis Mawrth eleni fe wnaeth yr achos yn erbyn perchennog y cartref, Dr Prana Das, prif weithredwr y cwmni Paul Black a'r cwmni Puretruce ddymchwel yn ddisymwth.
Digwyddodd hyn yn dilyn lladrad yng nghartref Dr Das pan gafodd ei adael gydag anafiadau i'w ymennydd a ddim mewn cyflwr i sefyll ei brawf.
Ond mae galwadau bellach am ymchwiliad cyhoeddus i esgeulustod ehangach mewn cartrefi gofal er mwyn sicrhau na fydd y fath beth yn digwydd eto.
Dywedodd Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru Sarah Rochira: "Fedra i ddim meddwl am ffordd arall o ddisgrifio'r peth heblaw cyfres o fethiannau.
"Rwyf wedi galw ar Lywodraeth Cymru i gynnal ymchwiliad cyhoeddus - ymchwiliad i'r hyn ddigwyddodd, pwy oedd yn gyfrifol ac i roi sicrwydd i bobl Cymru na all hyn ddigwydd eto yng Nghymru."
Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod yn ystyried yr alwad.
Straeon perthnasol
- 7 Mawrth 2013
- 6 Mawrth 2013