Dyn wedi marw ar ôl disgyn
- Published
Mae dyn wedi marw yn dilyn damwain ym mhorthladd Doc Penfro fore Mawrth.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i'r safle am 8:49am yn dilyn adroddiadau bod y dyn wedi disgyn o beiriant.
Mi aeth y Gwasanaeth Ambiwlans Cymru ag ef mewn hofrennydd i Ysbyty'r Brifysgol yng Nghaerdydd ond bu farw.
Dywedodd Alec Don, Prif Weithredwr y porthladd: "Mae hyn yn ddigwyddiad tragic ac ar ran yr holl weithwyr yn y porthladd fe fydden i yn hoffi ymestyn ein cydymdeimlad dwysaf i'r teulu, ffrindiau a chydweithwyr y dyn sydd wedi marw.
"Er nad oedd ef wedi ei gyflogi gan Borthladd Doc Penfro, dw i'n siŵr y bydd pawb sydd yn gweithio yn y gymuned glos yn Noc Penfro wedi eu tristau gan y newyddion am ei farwolaeth."
Mae'r heddlu a'r adran weithredol Iechyd a Diogelwch wedi dechrau ymchwiliad i'r digwyddiad.