Georgia Williams: Dyn gerbron llys
- Published
image copyrightWest Mercia Police
Mae dyn 22 oed wedi ymddangos o flaen llys yn Stafford i ateb cyhuddiad o lofruddio Georgia Williams.
Cafodd yr achos yn erbyn Jamie Reynolds ei ohirio tan Medi 6, 2013.
Ymddangosodd yn y llys trwy gyswllt fideo a chafodd ei gadw yn y ddalfa tan y gwrandawiad nesaf.
Roedd Georgia Williams yn 17 oed ac yn ddisgybl chweched dosbarth yn New College yn Wellington, Sir Amwythig.
Daeth heddlu sy'n ymchwilio i'r diflaniad o hyd i gorff mewn coedwig ger bwlch Nant-y-Garth rhwng Wrecsam a Rhuthun ddydd Gwener.
Dyw'r heddlu ddim wedi cadarnhau hynny eto, ond maen nhw'n credu mai corff Georgia a gafodd ei ganfod yno.
Straeon perthnasol
- Published
- 1 Mehefin 2013
- Published
- 31 Mai 2013
- Published
- 31 Mai 2013