Georgia Williams: Adnabod corff yn ffurfiol

Georgia Williams Image copyright West Mercia Police
Image caption Diflannodd Georgia Williams ar ddydd Sul, Mai 26

Mae heddlu sy'n ymchwilio i ddiflaniad Georgia Williams o Sir Amwythig wedi cadarnhau mai ei chorff hi a ganfuwyd ym mwlch Nant-y-Garth rhwng Wrecsam a Rhuthun nos Wener.

Maen nhw hefyd wedi cadarnhau bod archwiliad post mortem ar y corff wedi dangos ei bod hi'n ymddangos fel ei bod wedi cael ei thagu i farwolaeth.

Mae'r heddlu wedi ailadrodd apêl am wybodaeth am eiddo Georgia sydd heb gael ei ddarganfod, gan gynnwys ei ffôn symudol, bag llaw a phethau eraill.

'Parch i'r teulu'

Wrth gyhoeddi'r newyddion dywedodd y Ditectif Uwch-Arolygydd Adrian McGee, o Heddlu Sir Amwythig:

"Gallaf gadarnhau bod y corff a ganfuwyd mewn coedwig ger bwlch Nant-y-Garth ger Wrecsam ddydd Gwener wedi cael ei adnabod yn ffurfiol fel corff Georgia Williams, 17 oed.

"Er nad ydym mewn sefyllfa i gyhoeddi manylion pellach am resymau cyfreithiol, ac oherwydd parch tuag ar y teulu yn y cyfnod trist yma, rwyf hefyd yn gallu cadarnhau bod Georgia wedi marw oherwydd pwysau'n cael ei roi ar ei gwddf.

"Bydd cwest i farwolaeth Georgia'n cael ei agor yng nghanolfan Wellington am 2pm heddiw cyn cael ei ohirio.

"Rydym yn parhau i chwilio am fag, bag colur, ffôn symudol a dillad oedd yn perthyn i Georgia. Mae'r bag yn un lledr neilltuol gyda phatrwm smotiau, a ffôn symudol Samsung Galaxy Y oedd ganddi.

"Mae'r gôt sydd ar goll yn un lledr du gyda choler, a dyna oedd yn ei wisgo pan adawodd gartre'r teulu yn Wellington nos Sul, Mai 26 am 7:30pm.

"Mae dod o hyd i'r eitemau yma yn bwysig iawn i ni, ac rydym hefyd yn awyddus i glywed gan unrhyw un sy'n credu eu bod wedi gweld fan Toyota Hiace 300 lliw arian, gyda'r rhif CX06 ASV, ar y dydd Llun y 27ain neu'r dydd Mawrth 28ain."

Llys

Yn y cyfamser mae dyn 22 oed wedi ymddangos o flaen llys yn Stafford i ateb cyhuddiad o lofruddio Georgia Williams.

Cafodd yr achos yn erbyn Jamie Reynolds ei ohirio tan Medi 6, 2013.

Ymddangosodd yn y llys trwy gyswllt fideo a chafodd ei gadw yn y ddalfa tan y gwrandawiad nesaf.

Roedd Georgia Williams yn 17 oed ac yn ddisgybl chweched dosbarth yn New College yn Wellington, Sir Amwythig.

Straeon perthnasol