Lle parhaol i gerflun Degas
- Published
Mae cerflun yr artist o Ffrainc Edgar Degas wedi cael lle parhaol yn Amgueddfa Cymru.
Y Gweinidog Diwylliant a Chwaraeon, John Griffiths, sy'n dadorchuddio'r cerflun efydd o geffyl ar garlam yn yr amgueddfa ddydd Mercher.
Derbyniwyd y cerflun o ystad yr artist enwog Lucian Freud fu farw yn 2011.
Dywedodd Mr Griffiths: "Mae ein casgliadau celf o safon fydeang yn ased enfawr i Gymru wrth i'r amgueddfa fynd o nerth i nerth.
'Denu ymwelwyr'
"Dwi'n hyderus y bydd y gwaith hardd hwn yn denu ymwelwyr i'r amgueddfa."
Roedd Degas yn un o Argraffyddwyr enwog Ffrainc yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg.
Yn ôl arbenigwyr, y ceffyl ar garlam oedd y gwaith mwya' trawiadaol o blith y rhai gafodd eu gadael yn ei stiwdio wedi iddo farw.
Cysylltiadau cryf
Roedd cysylltiadau cryf rhwng Freud a Chymru. Cafodd ei hyfforddi gyda'r artist o Gymru, Cedric Morris, a gweithiodd am gyfnod yn y wlad hon.
Dywedodd David Anderson, cyfarwyddwr cyffredinol yr amgueddfa: "Bydd y cerflun hwn yn ychwanegiad pwysig i'n casgliad ni ...
"Yn ogystal â'r gwaith hwn mae dau gerflun arall yr artist yn ein casgliad o gelf Ffrengig."
Straeon perthnasol
- Published
- 31 Mai 2013
- Published
- 22 Mai 2013
- Published
- 13 Mai 2013