Arglwyddi o blaid priodas hoyw
- Published
Mae gwelliant yn Nhŷ'r Arglwyddi yn erbyn cyfreithloni priodas hoyw wedi methu.
Roedd 390 yn erbyn gwelliant yr Arglwydd Dear a 148 o blaid.
Mae hyn yn golygu bod y cynlluniau gam yn nes at fod yn ddeddf wedi i'r arglwyddi drafod am ddau ddiwrnod.
Roedd Tŷ'r Cyffredin wedi pleidleisio o blaid cyfreithloni priodas hoyw yng Nghymru a Lloegr o 366 pleidlais i 161.
Yn ystod y ddadl dywedodd yr Arglwydd Carlile, cyn-arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru, fod ei ferch Anna wedi dyweddio â Joanna, menyw broffesiynol arall.
'Sefydlogrwydd'
"Bydd eu priodas nhw, os yw'n cael ei chaniatáu, yn golygu sefydlogrwydd i dri o blant," meddai.
Dywedodd fod ei ferch yn credu y byddai llai o gydnabyddiaeth gyfreithiol yn golygu gwahaniaethu.
Gwrthododd yr Arglwydd Carlile yr honiadau bod cyfreithloni priodas hoyw yn tanseilio priodas heterorywiol.
"Mae cydberthnasau o'r blaen - gan gynnwys rhai heterorywiol yn achos fy merch - wedi methu," meddai.
'Ddim yn diflannu'
Dywedodd yr Arglwydd Elis-Thomas: "Fydd y ddadl ddim yn diflannu ... mae angen ail ddarlleniad er mwyn sicrhau craffu priodol.
"Fel arall, mae fel gwasgu botwm dileu heb ddarllen e-bost."
Pe bai'r bil yn methu, meddai, fe fyddai'n ymgyrchu gyda Stonewall Cymru a Christnogion Hoyw ac eraill i ddatganoli cyfraith priodas "fel yr hyn sy' wedi digwydd yn Yr Alban."
Straeon perthnasol
- Published
- 21 Mai 2013
- Published
- 11 Ebrill 2013