Damwain: Gyrrwr yn yr ysbyty
- Published
Aed â gyrrwr mewn ambiwlans awyr i'r ysbyty oherwydd damwain ar yr A470.
Roedd gwrthdrawiad rhwng car a cherbyd nwyddau ger y cyffordd â'r B5279 yng nghyffiniau Gerddi Bodnant am 5:45pm.
Cafodd diffoddwyr o'r Rhyl, Bae Colwyn, Llandudno a Chaernarfon eu galw.
Roedd rhaid defnyddio cyfarpar arbennig i dorri'r unigolyn yn rhydd o'i gar a'r gred yw ei fod wedi anafu ei goes yn ddifrifol.