£2bn i wella systemau dŵr a charthffosiaeth Cymru
- Published
Mae Dŵr Cymru'n holi barn eu cwsmeriaid ar gynlluniau i wario £2 biliwn ar wasanaethau dŵr a charthffosiaeth
Fe fydd y buddsoddiad yn digwydd dros gyfnod o chwe blynedd, gan ddechrau yn 2015.
Mae'r cynlluniau'n cynnwys gwella gweithfeydd trin dŵr i sicrhau gwell ansawdd dŵr.
Yn ôl y cwmni, mae'n rhaid "cael y cydbwysedd cywir" rhwng cwrdd ag anghenion cwsmeriaid a gwarchod yr amgylchedd.
Ond dywedon nhw y byddan nhw'n parhau i geisio sicrhau bod biliau cwsmeriaid yn "fforddiadwy".
Mae Dŵr Cymru yn holi barn y tair miliwn o gwsmeriaid sydd ganddynt yng Nghymru, Sir Henffordd a Glannau Dyfrdwy ar wyth cynllun "uchelgeisiol" y maent yn bwriadu eu gweithredu rhwng 2015 a 2021.
Cynllunio
Mae'r buddsoddiad yn cynnwys:
- Newid 400 cilometr o brif bibelli dŵr yn ardaloedd Sir Henffordd, Caerdydd a Chasnewydd
- Gwella gweithfeydd trin dŵr i sicrhau gwell ansawdd dŵr, gyda gwelliannau mawr yn Llandudno, Bae Colwyn a'r Rhondda
- Adeiladu pibell newydd rhwng de ddwyrain a de orllewin Cymru
- Cynyddu faint o ynni adnewyddol sy'n cael ei gynhyrchu gan y cwmni i 100 gigawat yr awr
- Buddsoddi mewn cyfleusterau gwyrdd newydd yn Wrecsam
- Lleihau'r risg o lifogydd i dros 200 o adeiladau
- Cyflwyno rhaglen newydd i leihau'r risg o lifogydd o garthffosydd.
Dywedodd Chris Jones, Cyfarwyddwr Cyllid Gweithredol Dŵr Cymru:
"Mae'n hanfodol bod ein cwmni yn cynllunio ymlaen llaw. Mae sawl her yn ein hwynebu, yn cynnwys addasu'r busnes oherwydd newid yn yr hinsawdd, cyrraedd safonau amgylcheddol uwch, cynnal ein seilwaith a sicrhau y gallwn ddiwallu anghenion busnesau a phoblogaeth sy'n tyfu am ddegawdau i ddod.
"Er na allwn wneud popeth a'i bod yn rhaid i ni wneud penderfyniadau anodd, rydym yn canolbwyntio ar sicrhau'r cydbwysedd cywir.
"Rydym am fuddsoddi er mwyn cynnal a gwella gwasanaethau ein cwsmeriaid domestig a busnes, a gwarchod yr amgylchedd, ond mae'n rhaid cadw'r biliau'n fforddiadwy a helpu ein cwsmeriaid mwyaf difreintiedig hefyd."
Ychwanegodd Chris Jones: "Gobeithio y gwelwn gynifer o gwsmeriaid ag y bo modd yn ein digwyddiadau cymunedol dros yr haf. Trwy ddweud eu dweud, wyneb yn wyneb neu ar lein, byddant yn gallu dylanwadu ar ein cynlluniau buddsoddi, pa broblemau y byddwn yn mynd i'r afael â nhw a pha fanteision a gaiff eu cyflenwi."
Straeon perthnasol
- Published
- 14 Mehefin 2012
- Published
- 17 Mai 2011
- Published
- 10 Ebrill 2012
- Published
- 15 Mawrth 2012