Morgannwg yn codi stêm
- Published
Er gwaetha' bore siomedig, mae cricedwyr Morgannwg wedi cael diwrnod boddhaol iawn yn eu gêm ym Mhencampwriaeth y Siroedd yng Nghaerloyw.
Y tîm cartref alwodd yn gywir gan wahodd Morgannwg i fatio, ond fe gollodd yr ymwelwyr nifer o wicedi'n gyflym.
Gyda'r cyfanswm ar 36 fe aeth Ben Wright yn ôl i'r pafiliwn, ac fe ddilynnodd Will Bragg yn fuan wedyn.
Pan gafodd Marcus North ei ddal gan y wicedwr Gareth Roderick oddi ar fowlio David Payne, roedd y sgôr yn 56 am dair.
Yn fuan ar ôl cinio fe ddaeth Jim Allenby i gadw cwmni i Murray Goodwin ar y sgwâr, ac fe adeiladodd y ddau bartneriaeth disglair.
Cyrrhaeddodd Allenby ei gant cyn iddo golli ei wiced i fowlio James Fuller, ond pan ddaeth y chwarae i ben roedd Goodwin yn dal i mewn ar 96 h.f.a. gyda'r capten Mark Wallace yn cyfrannu 31 i'r cyfanswm o 318.
Bydd Morgannwg yn gobeithio ychwanegu at y cyfanswm fore Iau cyn i'r bowlwyr gael cynnig arni.
Pencampwriaeth y Siroedd; Adran 2 - Sir Gaerloyw v.Morgannwg; Caerloyw:-
Sgôr diweddaraf (diwedd y diwrnod cyntaf)
Morgannwg (batiad cyntaf)= 318 am 5 wiced - Allenby 105, Goodwin 96 h.f.a.
Sir Gaerloyw =