Taro a ffoi: Dedfrydu gyrrwr fan
- Published
Bydd dyn a laddodd fam i dri ac anafu 17 o bobl eraill - gan gynnwys saith o blant - yn cael ei ddedfrydu yn Llys y Goron Caerdydd yn ddiweddarach.
Bu farw Karina Menzies, 31 oed, pan gafodd ei tharo gan fan oedd yn cael ei gyrru gan Matthew Tvrdon ym mis Hydref y llynedd.
Mae Tvrdon, sydd â sgitsoffrenia paranoaidd, wedi pledio'n euog i ddynladdiad ar y sail nad oedd yn ei iawn bwyll.
Mae'r dyn 32 oed hefyd wedi cyfaddef i saith cyhuddiad o geisio llofruddio a chyhuddiadau eraill gan gynnwys tri o fwriadu achosi newid corfforol difrifol.
Adolygiad
Ar ddiwrnod cynta'r gwrandawiad dedfrydu ddydd Mercher, clywodd y llys fod Tvrdon wedi gyrru'r fan am hanner awr ar hyd llwybr wyth milltir yng nghanol Caerdydd.
Tarodd yn erbyn pobl oedd yn cerdded ar ymyl y ffordd wrth iddo dargedu oedolion â phlant mewn pum lleoliad gwahanol.
Yn y digwyddiad mwyaf difrifol, aeth â'r fan o flaen gorsaf dân Trelái lle'r oedd Ms Menzies yn cerdded gyda dau o'i phlant.
Gwthiodd hi'r plant o'r ffordd cyn i'r fan ei tharo a bu farw o'i hanafiadau.
Gwelodd y llys luniau o gamerâu cylch cyfyng yn dangos yr heddlu yn ceisio atal y fan yr oedd Tvrdon yn ei gyrru. Pan gafodd ei arestio dangosodd profion nad oedd wedi bod yn yfed na chymryd cyffuriau.
Treuliodd Tvrdon gyfnod mewn gofal seiciatryddol yn 2003 a 2007, ond erbyn 2011 roedd wedi rhoi'r gorau i gymryd meddyginiaeth am ei gyflwr.
Yn y cyfamser mae Llywodraeth Cymru wedi dweud ei bod yn ystyried cyfeirio'r achos ar gyfer adolygiad annibynnol.
Straeon perthnasol
- Published
- 5 Mehefin 2013
- Published
- 3 Mehefin 2013
- Published
- 22 Hydref 2012