Taro a ffoi: Cyfnod amhenodol
- Cyhoeddwyd

Mae dyn a laddodd fam i dri ac anafu 20 o bobl eraill - gan gynnwys saith o blant - wedi cael ei ddedfrydu i gyfnod amhenodol mewn uned seiciatryddol.
Bydd Matthew Tvrdon, 32, yn cael ei gadw yn Ysbyty Ashworth o dan y Ddeddf Iechyd Meddwl.
Dywedodd y barnwr fod yr hyn ddigwyddodd yn "ddychrynllyd" a bod Tvrdon wedi defnyddio ei fan fel arf.
Yn Llys y Goron Caerdydd cafodd ei wahardd rhag gyrru am 25 mlynedd.
Bu farw Karina Menzies, 31 oed, pan gafodd ei tharo gan fan oedd yn cael ei gyrru gan Matthew Tvrdon ym mis Hydref y llynedd.
Dynladdiad
Roedd Tvrdon, sydd â sgitsoffrenia paranoaidd, wedi pledio'n euog i ddynladdiad ar y sail nad oedd yn ei iawn bwyll.
Roedd hefyd wedi cyfaddef i saith cyhuddiad o geisio llofruddio - a chyhuddiadau eraill, gan gynnwys tri o fwriadu achosi niwed corfforol difrifol.
Wrth gyfeirio at farwolaeth Ms Menzies, dywedodd y Barnwr Mr Ustus Wyn Williams: "Yn fwriadol, fe yrroch eich fan drosti pan oedd hi a'i phlant yn cerdded o flaen Gorsaf Dân Trelái.
"Mae 'na dystiolaeth rymus eich wedi bod wedi gyrru'r fan drosti nid unwaith ond dwywaith.
'Tribiwnlys'
"Bu farw hi o sawl anaf oherwydd yr hyn wnaethoch chi."
Dywedodd ei fod yn barod i dderbyn mai ei glefyd meddwl oedd y rheswm am yr hyn wnaeth e.
Clywodd y llys fod Tvrdon wedi cael cyngor i leihau ei feddyginiaeth yn 2011 ond dywedodd y barnwr nad oedd yn beio'r diffynnydd am hynny.
"Byddwch yn cael eich rhyddhau dim os yw tribiwnlys iechyd meddwl yn ystyried bod hynny'n addas," meddai.
"Yn wyneb eich clefyd a'r niwed rydych wedi ei achosi dylech ddisgwyl cael eich cadw yn yr ysbyty am gyfnod hir iawn."
Adolygiad
Yn y cyfamser, mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau y byddan nhw'n cyfeirio'r achos.
Dywedodd llefarydd: "Rydym wedi adolygu achos Matthew Tvrdon a gallwn gadarnhau y byddwn yn galw ar Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru i gynnal adolygiad annibynnol i sicrhau bod modd adnabod unrhyw wersi sydd i'w dysgu o'r achos ofnadwy hwn a gweithredu arnyn nhw."
Ar ddiwrnod cynta'r gwrandawiad dedfrydu ddydd Mercher, clywodd y llys fod Tvrdon wedi gyrru'r fan am hanner awr ar hyd llwybr wyth milltir yng nghanol Caerdydd.
Cafodd taith Matthew Tvrdon trwy orllewin Caerdydd ei ffilmio ar deledu cylch cyfyng
Tarodd yn erbyn pobl oedd yn cerdded ar ymyl y ffordd wrth iddo dargedu oedolion â phlant mewn pum lleoliad gwahanol.
Yn y digwyddiad mwyaf difrifol gyrrodd y fan o flaen gorsaf dân Trelái lle'r oedd Ms Menzies yn cerdded gyda dau o'i phlant.
Gwthiodd hi'r plant o'r ffordd cyn i'r fan ei tharo a bu farw o'i hanafiadau.
Gwelodd y llys luniau o gamerâu cylch cyfyng yn dangos yr heddlu yn ceisio atal y fan yr oedd Tvrdon yn ei gyrru. Pan gafodd ei arestio dangosodd profion nad oedd wedi bod yn yfed na chymryd cyffuriau.
Treuliodd Tvrdon gyfnod mewn gofal seiciatryddol yn 2003 a 2007, ond erbyn 2011 roedd wedi rhoi'r gorau i gymryd meddyginiaeth am ei gyflwr.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd5 Mehefin 2013
- Cyhoeddwyd3 Mehefin 2013
- Cyhoeddwyd22 Hydref 2012