Canas i ymuno ag Abertawe
- Published
image copyrightGetty Images
Bydd Jose Canas yn ymuno â chlwb pêl-droed Abertawe am ddim pan fydd ei gytundeb gyda chlwb Real Betis yn Sbaen yn dod i ben ddiwedd y mis.
Mae'r chwaraewr 26 oed, a gynorthwyodd y clwb o ddinas Seville i orffen yn seithfed yn La Liga y tymor diwethaf, wedi arwyddo cytundeb i symud i Stadiwm Liberty.
Mae enw Canas wedi cael ei gysylltu gydag Abertawe ers tro, a bu ymgais i berswadio Betis i'w werthu ym mis Ionawr.
Bydd Canas yn ymuno â'r Sbaenwyr eraill yn Abertawe - Angel Rangel, Chico Flores, Pablo Hernandez a Michu - ar gyfer y tymor nesaf.
Daeth Jose Canas drwy'r sustem ieuenctid gyda Real Betis, ond gwrthododd gynnig am gytundeb newydd gyda'r clwb.