Pensaer Annibyniaeth

Dydw i ddim yn gwybod faint o gymorth yw areithiau gan David Cameron i'r ymgyrch 'Na' yn refferendwm yr Alban. Wedi'r cyfan dyw'r Torïaid ddim yn or-boblogaidd yn y rhan yna o'r byd a dweud y lleiaf. Rwy'n tybio hefyd nad yw crandrwydd nac acen y Prif Weinidog yn ei anwylo i bobol y Gorbals! Ar y llaw arall fe etholwyd Roy Jenkins yn Aelod Seneddol yng Nglasgow felly mae'n bosib fy mod yn anghywir!

Wrth gwrs fe fyddai'n ymddangos yn rhyfedd ar y naw pe na bai Prif Weinidog y Deyrnas Unedig yn mentro i'r Alban i amddiffyn yr undod hwnnw a chyda 467 o ddyddiau i fynd cyn y bleidlais fawr go brin taw hwn fydd y tro olaf i David Cameron fentro i hen wlad ei dadau.

Fel mae'n digwydd roeddwn i mewn seminar ddoe yn trafod y datblygiadau yn yr Alban ac nid am y tro cyntaf fe godwyd y pwynt ynghylch pa mor anarferol yw hi i wladwriaeth ganiatáu i ran o'i thiriogaeth gynnal pleidlais o'r fath.

Doedd miliwn o brotestwyr ar strydoedd Barcelona ddim yn ddigon i ddarbwyllo llywodraeth Madrid y dylid caniatáu refferndwm yng Nghatalwnia. Ymateb un o uchel swyddogion byddin Sbaen i'r awgrym oedd "per sobre del meu cadàver" neu "dros fy nghorff celain" ac nid fe oedd y milwr cyntaf i awgrymu y gallai tanciau rhoi terfyn ar ddyheadau'r Catalaniaid. Mae hynny wedi digwydd o'r blaen wrth gwrs.

Y gymhariaeth agosaf â'r Alban yw'r ddwy bleidlais a gynhaliwyd yn Quebec yn 1980 a 1995. Fe enillodd unoliaethwyr y ddwy ac yn y flwyddyn 2000 cyflwynwyd deddfwriaeth ffederal i'w gwneud hi'n llawer anoddach i genedlaetholwyr Quebec gynnal ac ennill pleidlais o'r fath. Mae'r Llywodraeth daleithiol yn gwrthod cydnabod y ddeddfwriaeth honno.

Ym Mhrydain does 'na ddim her ddifrifol wedi bod i hawl Llywodraeth yr Alban i gynnal y bleidlais nac unrhyw awgrym y gallai'r tanciau ymddangos ar Princes Street a'r Royal Mile pe bai'r Albanwyr yn pleidleisio o blaid gadael.

Mae'r cysyniad o sofraniaeth braidd yn hen ffasiwn ond i'r graddau y mae'n berthnasol mae'n ymddangos ei bod hi wedi mudo o'i chartref traddodiadol yn ein cyfansoddiad sef y "Goron yn y Senedd" i ddwylo'r etholwyr yn y pedair gwlad.

Mae fy nghyfaill Richard Wyn Jones yn honni ei fod yn gwybod yr union ddyddiad y trosglwyddwyd sofraniaeth dros Gymru a'r Alban o San Steffan yn ôl i'r ddwy genedl. Mawrth y cyntaf, 1979 oedd y diwrnod hwnnw.

Dyna pryd gynhaliwyd y ddau refferendwm ynghylch cynlluniau datganoli llywodraeth Jim Calaghan. Collwyd y bleidlais yng Nghymru a doedd y mwyafrif yn yr Alban ddim yn ddigonol i fwrw ymlaen a'r cynlluniau. Ond nid y canlyniadau sy'n bwysig yn fan hyn ond y cynsail mai mater i bobol Cymru a'r Alban yw statws eu gwledydd . Ymdrech i rwystro datganoli gwnaeth agor y drws i annibyniaeth felly.

Cyfeirir weithiau at Ron Davies fel "pensaer datganoli". Os ydy Richard yn iawn ai Neil Kinnock yw "pensaer annibyniaeth"?

Dydw i ddim yn rhagweld y bydd e'n hawlio'r teitl yna, rhywsut!