Japan 18 Cymru 22

japan v Cymru Image copyright Huw Evans picture agency
Image caption Gêm agos rhwng Japan a Chymru yn y prawf cyntaf yn Osaka

Mae Cymru wedi curo Japan o 22 pwynt i 18 yn y prawf cyntaf yn Osaka.

Ond bu'n rhaid i dîm amhrofiadol Robin McBryde frwydro yn galed am y fuddugoliaeth.

Mewn gwres llethol fe lwyddodd Cymru i ennill y blaen gyda chais yn yr ail hanner gan Harry Robinson, asgellwr y Gleison. Cafodd hwnnw ei drosi gan y maswr Dan Biggar.

Fe sgoriodd rhif 10 y Gweilch bedair cic gosb arall cyn gadael y maes. Fe rododd ymadawiad Biggar gyfle i faswr y Gleision Rhys Patchell sgorio yn ei ymddangosiad cyntaf i Gymru. Roedd e'n llwyddiannus gyda chic gosb yn hwyr yn y gêm.

Ond y tîm cartref greodd yr argraff fwyaf gyda pherfformiad penderfynol. Roedd yna geisiau i Japan gan Michael Broadhurst a Yoshikazu Fujitsu. Cafodd un o'r ceisiau ei drosi gan y cefnwr Ayumu Goromaru. Roedd e'n llwyddiannus hefyd gyda dwy gic gosb.

Hwn oedd deuddgfed buddugoliaeth Cymru dros Japan ers iddyn nhw gwrdd am y tro cyntaf yn 1973.

Ond bydd y tîm hyfforddi yn gobeithio am berfformiad gyda mwy o argyhoeddiad yn yr ail brawf yn Tokyo yr wythnos nesaf.

TIMAU

Cymru: Liam Williams (Scarlets); Harry Robinson (Gleision), Owen Williams (Gleision), Jonathan Spratt (Gweilch), Dafydd Howells (Gweilch); Dan Biggar (Gweilch), Lloyd Williams (Gleision); Ryan Bevington (Gweilch), Emyr Phillips (Scarlets), Scott Andrews (Gleision), Bradley Davies (capten, Gleision), Lou Reed (Gleision), Andrew Coombs (Dreigiau), James King (Gweilch), Rob McCusker (Scarlets).

Eilyddion: Scott Baldwin (Gweilch), Rhys Gill (Saraseniaid), Rhodri Jones (Scarlets), Andries Pretorius (Gleision), Dan Baker (Gweilch), Tavis Knoyle (Scarlets), Rhys Patchell (Gleision), Tom Prydie (Dreigiau)

Japan: Ayumu Goromaru, Yoshikazu Fujita, Male Sau, Craig Wing, Kenki Fukuoka, Harumichi Tatekawa, Fumiaki Tanaka; Masataka Mikami, Shota Horie, Hiroshi Yamashita, Hitoshi Ono, Shoji Ito, Hendrik Tui, Michael Broadhurst, Takashi Kikutani (capten).

Replacements: Takeshi Itu, Yusuke Nagae, Kensuke Hatakeyama, Toshizumi Kitagawa, Ryuta Yasui, Atsushi Hiwasa, Yu Tamura, Hirotoki Onozawa.