Chwe Chymro yn nhîm y Llewod
- Published
Ar ôl eu buddugoliaeth yn erbyn Queensland Reds brynhawn Sadwrn, mae'r Llewod wedi cyhoeddi'r tîm i wynebu'r Combined Queensland-New South Wales Country yn Newcastle nos Fawrth.
Mae chwech o Gymry wedi'u dewis - George North, Alex Cuthbert, Richard Hibbard, Ian Evans, Justin Tipuric a Jamie Roberts.
Bydd Roberts yn ymuno â'r Gwyddel Brian O'Driscoll yng nghanol cae - ar ôl eu partneriaeth hynod lwyddianus yn ystod taith ddiwetha'r Llewod yn Ne Affrica yn 2009.
Ond y gêm ddydd Mawrth fydd y tro cynta' i'r ddau chwarae gyda'i gilydd yn Awstralia.
Mae Roberts yn un o chwe Chymro sydd wedi'u dewis i ddechrau'r gêm yn Newcastle, gydag O'Driscoll wedi'i enwi'n gapten.
Yn y cyfamser, mae Simon Zebo, o Iwerddon, wedi teithio i Awstralia oherwydd pryder am Tommy Bowe, sydd wedi cael llawdriniaeth ar ôl torri asgwrn yn ei law yn ystod buddugoliaeth ddydd Sadwrn dros Queensland Reds.
Y Llewod:
Sean Maitland, Alex Cuthbert, Brian O'Driscoll, Jamie Roberts, George North; Stuart Hogg, Conor Murray; Alex Corbisiero, Richard Hibbard, Dan Cole, Richie Gray, Ian Evans, Sean O'Brien, Justin Tipuric, Jamie Heaslip.
Eilyddion: Rory Best, Ryan Grant, Matt Stevens, Alun Wyn Jones, Toby Faletau, Mike Phillips, Jonathan Davies, Leigh Halfpenny.