Yn ôl i Gymru
- Published
Mae cyn hyfforddwr y Gweilch wedi dychwelyd i Gymru i fod yn Gyfarwyddwr Rygbi Dreigiau Casnewydd Gwent.
Cyn y penodiad mi oedd Lyn Jones 49 oed wedi bod yn hyfforddi mewn ysgol yn Abu Dhabi a chyda thîm Cymry Llundain.
Yn 2008-9 roedd yn hyfforddwr ymosod y Dreigiau.
Cafodd ei eni yng Ngwmafan ac aeth i Ysgol Gyfun Ystalyfera.
Pum cap
Fe gafodd bum cap dros ei wlad fel blaen asgellwr a bu'n chwarae i dimau Castell-nedd, Llanelli a Threorci.
Castell-nedd oedd y tîm cyntaf iddo hyfforddi ac yna symudodd i hyfforddi'r Gweilch yn 2003. Gadawodd y Gweilch yn 2008 a chafodd lwyddiant wedyn yn hyfforddi Cymry Llundain.
Y gynghrair
Yn 2012 enillodd y clwb y gynghrair ar ôl curo Môr-ladron Cernyw.
Er na chafon nhw eu dyrchafu'n syth i Uwchgynghrair Aviva oherwydd pryderon am y stadiwm cartref mi oedd eu hapêl yn llwyddiannus.
Y cyn gyfarwyddwr Robert Beale yw rheolwr y Dreigiau a Darren Edwards yn parhau i fod yn brif hyfforddwr.
Ond mae ei gynorthwydd Rob Appleyard wedi gadael.
Straeon perthnasol
- Published
- 6 Mehefin 2011
- Published
- 9 Gorffennaf 2012
- Published
- 29 Mehefin 2012
- Published
- 30 Mai 2012