Llofruddiaeth ddwbl: dyn yn y ddalfa
- Published
Mae dyn 23 oed yn y ddalfa ar ôl ymddangos yn llys ynadon fore Llun wedi ei gyhuddo o lofruddio ei fam a'i chwaer.
Cafodd John Jenkin ei arestio yn fuan wedi i'r heddlu alw yn Stryd Newton yn Millom, Cumbria, ddydd Sadwrn.
Daethpwyd o hyd i gorff Alice McMeekin, 58 oed yn ei thŷ a chorff menyw arall.
Dydy'r ail gorff ddim wedi cael ei adnabod yn ffurfiol eto ond y gred yw mai corff Kathryn Jenkin, 20 oed o Aberdâr, yw e.
Roedd ci'r teulu hefyd wedi marw ac mae Mr Jenkin hefyd yn wynebu cyhuddiad o greulondeb i anifail.
Mae profion post mortem yn cael eu cynnal ddydd Llun.
Straeon perthnasol
- Published
- 10 Mehefin 2013