MMR: Pryderon am glwy pennau
- Cyhoeddwyd

Gallai nifer yr achosion o glwy pennau gynyddu os na fydd mwy o bobl ifanc yn cael y brechiad MMR, yn ôl Iechyd Cyhoeddus Cymru.
Daw'r rhybudd wedi i nifer yr achosion o'r frech goch yn ardal Abertawe godi 20 dros yr wythnos ddiwetha' i 1,191.
Dywed y corff bod 'na gynnydd hefyd yn nifer yr achosion o glwy pennau eleni ac maent yn atgoffa pobl ifanc a'u rhieni fod angen dau ddos o'r brechiad MMR er mwyn sicrhau eu bod wedi'u diogelu'n effeithiol.
Yn y pum mis hyd at ddiwedd Mai 2013, roedd 'na 76 achos o glwy pennau wedi'i gadarnhau yng Nghymru - o'i gymharu â 77 ar gyfer y flwyddyn gyfan yn 2011, ac 88 yn 2012.
Mae tua 35,000 o bobl rhwng 10 ac 18 oed sydd heb eu brechu ar hyn o bryd ac mae 'na bryder y gallai hyn arwain at gynnydd mawr yn nifer yr achosion o glwy pennau, yn ogystal â'r frech goch.
'Haint difrifol'
Dywedodd Dr Marion Lyons, o Iechyd Cyhoeddus Cymru: "Mae achosion o glwy pennau i'w gweld yn aml mewn plant hŷn a phobl ifanc yn eu harddegau ac mae 'na bryder y gallai'r grŵp yma fod mewn perygl o gael eu heintio gan nad oes digon o rai rhwng 10 ac 18 oed yn cael y brechiad MMR yng Nghymru.
"Mae clwy pennau o hyd yn bresennol yng Nghymru ond mae nifer yr achosion eleni yn hynod uchel. Mae'n bwysig i bobl ifanc a'u rhieni fod yn ymwybodol fod hwn yn gallu bod yn haint difrifol.
"Mae dau ddos o'r brechlyn MMR yn ddigon i amddiffyn yn erbyn y frech goch, clwy pennau a rwbela. Dylai unrhyw un sydd wedi'i eni ar ôl 1970 ac sydd ddim wedi cael yr heintiau yma nac wedi'u brechu siarad â'u meddyg teulu ar fyrder."
Straeon perthnasol
- 4 Mehefin 2013
- 25 Mai 2013
- 23 Mai 2013
- 14 Mai 2013