Dyn wedi marw ar ôl disgyn

  • Cyhoeddwyd
Mustang Marine, Doc Penfro
Disgrifiad o’r llun,
Bu farw Stephen John Greenaway wedi damwain ar safle Mustang Marine, Doc Penfro

Mae Heddlu Dyfed Powys wedi cyhoeddi enw dyn a fu farw mewn damwain ym mhorthladd Doc Penfro.

Cafodd Stephen John Greenaway, 50, o ardal Telford, anafiadau difrifol ar ôl disgyn ar safle Mustang Marine ar ddydd Mawrth, Mehefin 4.

Bu farw'r gweithiwr adeiladu hunangyflogedig yn Ysbyty Athrofaol Caerdydd, ar ôl cael ei hedfan yno mewn ambiwlans awyr.

Dywedodd Alec Don, Prif Weithredwr y porthladd wedi'r digwyddiad: "Mae hyn yn ddigwyddiad trasig ac, ar ran yr holl weithwyr y porthladd, hoffwn ymestyn ein cydymdeimlad dwysaf i deulu, ffrindiau a chydweithwyr y dyn sydd wedi marw.

"Er nad oedd ef wedi ei gyflogi gan Borthladd Doc Penfro, dw i'n siŵr y bydd pawb sydd yn gweithio yn y gymuned glos yn Noc Penfro wedi eu tristau gan y newyddion am ei farwolaeth."

Mae'r heddlu a'r adran weithredol Iechyd a Diogelwch wedi dechrau ymchwiliad i'r digwyddiad.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol