Damwain: heddlu yn apelio eto
- Cyhoeddwyd
Mae'r heddlu yn apelio am wybodaeth bellach yn dilyn damwain brynhawn Iau Ebrill 25 ar yr A465 ger Resolfen, i'r gogledd-ddwyrain o Gastell-nedd.
Roedd yna wrthdrawiad rhwng lori wen Renault a fan Citroen.
Dywed heddlu'r de ei bod yn awyddus i siarad gyda meddyg wedi ymddeol a stopiodd i gynnig cymorth.
Maent hefyd yn gofyn i unrhyw un arall wnaeth geisio helpu neu a welodd y ddamwain neu'r cerbydau cyn y gwrthdrawiad i gysylltu gyda nhw trwy ffonio 101 neu Taclo'r Tacle ar y rhif 0800 555 111.
Straeon perthnasol
- 25 Ebrill 2013
Dolenni perthnasol ar y we
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol