Datgelu delwedd newydd i ganol tre'r Wyddgrug

  • Cyhoeddwyd
Llun arlunydd o'r sgwârFfynhonnell y llun, Cyngor Sir y Fflint
Disgrifiad o’r llun,
Mae yna gerflun o'r nofelydd Daniel Owen ar y sgwâr

Bydd cynllun i adfywio canol tre' yn Sir y Fflint yn cael ei ddatgelu'n ddiweddarach.

Bydd y cynlluniau, a luniwyd wedi cyfnod ymgynghori yn y dre' ym mis Ionawr, yn cael eu harddangos yn neuadd y dre' rhwng 3:00 - 9:00pm ddydd Mercher.

Dywedodd arweinydd Cyngor Sir y Fflint, Aaron Shotton: "Rwy'n annog pobl i ddod draw ddydd Mercher i weld y cynlluniau cyffrous yma.

"Mae hwn yn gyfle gwych i foderneiddio'r sgwâr a chodi proffil Yr Wyddgrug.

"Rwy'n gobeithio y gall y sgwâr chwarae rhan fwy amlwg wrth annog a denu ymwelwyr i siopa ac aros yn y dre'."

Ym mis Rhagfyr 2012, sicrhaodd y dre' £100,000 o arian Ewropeaidd er mwyn ailwampio'r safle.

Dyw hi ddim yn eglur a yw'r cynlluniau diweddara' hyn yn ychwanegol i'r cyllid hwnnw.