Elusen wedi hawlio £50,000 yn ormod

  • Cyhoeddwyd
CCT yng Nghyffordd Llandudno
Disgrifiad o’r llun,
Mae Cludiant Cymunedol Conwy yng Nghyffordd Llandudno yn darparu cludiant i bobl fregus

Mae adroddiad wedi dweud bod elusen a sefydlwyd i helpu pobl fregus wedi hawlio dros £50,000 yn ormod o arian y trethdalwr.

Mae ymchwiliad i elusen Cludiant Cymunedol Conwy wedi dangos bod "pryderon difrifol" am y modd yr oedd yr elusen yn cael ei rhedeg.

Cafodd yr ymchwiliad ei gyhoeddi ym mis Medi'r llynedd wedi i'r gordaliadau ddod yn amlwg.

Dywedodd yr elusen fod camgymeriadau wedi eu gwneud "yn ddidwyll" a'u bod yn ceisio datrys eu problemau.

Hawlio gormod

Cyngor Conwy - ar y cyd â'r Gymdeithas Cludiant Cymunedol - luniodd yr ymchwiliad ac maen nhw'n dweud eu bod wedi cymryd camau i sicrhau bod pobl fregus yn dal i fedru cael mynediad i gludiant pwrpasol.

Mae'r elusen yn darparu cysylltiadau i'r rhai sy'n cael trafferth defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus yn ardal Cyngor Conwy.

Roedd yn gweithredu gwasanaeth oedd yn caniatáu i'r oedrannus a'r anabl archebu cerbyd ac roedden nhw hefyd yn gweithredu bysiau mini i grwpiau er mwyn cludo pensiynwyr i siopa neu ddarparu cludiant mewn ardaloedd gwledig.

Dechreuodd yr ymchwiliad wedi iddi ddod i'r amlwg fod yr elusen wedi hawlio gormod arian am wneud gwaith i Lywodraeth Cymru a Chyngor Conwy.

Cafodd cyfanswm o £33,866 yn ormod ei hawlio gan Lywodraeth Cymru a £20,844 yn ormod gan Gyngor Conwy.

Trafferthion amrywiol

Dywedodd Sasha Davies, cyfarwyddwr strategol i'r economi gyda Chyngor Conwy, wrth gynghorwyr fod yr awdurdod yn ymwybodol bod CCC yn cael trafferthion amrywiol.

"Fe gafodd adroddiad archwilio ei gomisiynu gan y cyngor a Chymdeithas Cludiant Cymunedol Cymru, ac fe wnaeth hwnnw ddod o hyd i nifer o bryderon difrifol yn y sefydliad, yn ariannol ac o safbwynt rheolaeth.

"Mae'r cyngor a Chymdeithas Cludiant Cymunedol Cymru wedi bod yn gweithio gyda Chludiant Cymunedol Conwy er mwyn ceisio datrys y trafferthion, ac i'w cefnogi yn eu hymdrechion i newid eu gweithdrefnau ariannol."

Ychwanegodd bod rhai o'r gwasanaethau y mae Cyngor Conwy yn talu amdanyn nhw'n cael eu cyflawni gan gwmnïau eraill tan i'r materion gael eu datrys.

'Didwyll'

Mynnodd cadeirydd CCC, John Barton, mai camgymeriad oedd hawlio gormod.

"Fe ddigwyddodd oherwydd cyfuniad o bethau, ond mae'n ymddangos bod hyn wedi digwydd yn ddidwyll," meddai. "Does neb o CCC wedi elwa'n bersonol o'r hyn aeth o'i le.

"Mae'r cyngor wedi rhoi pedair wythnos i ni ddatrys popeth, sydd yn gam positif.

"Rydym ni a'r cyngor yn awyddus i barhau i gydweithio er budd rhai o'r bobl fwyaf bregus yn ein cymdeithas. Rwy'n credu ein bod mewn sefyllfa gref i symud ymlaen."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol