Cynllunio ac iaith: O blaid gwelliant
- Published
Mae Cyngor Sir Gâr wedi gwrthod cynnig grŵp Plaid Cymru yn galw am gorff statudol i ystyried effaith cynlluniau datblygu ar yr iaith Gymraeg.
Yn lle hynny fe bleidleision nhw o blaid gwelliant y grŵp Llafur.
Fe gafodd cynllun i godi 300 o dai ym Mhenybanc ger Rhydaman ei gymeradwyo'n ddiweddar er gwaetha' gwrthwynebiad lleol.
Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud eu bod yn ystyried TAN 20, y cyfarwyddyd i gynghorau lleol ar ddatblygu a'r iaith Gymraeg.
Dywedodd Prif Weinidog Cymru y byddai fersiwn ddiwygiedig yn cael ei chyhoeddi yn yr hydref.
'Ystyriaeth berthnasol'
Roedd cynnig Plaid Cymru yn galw "ar Lywodraeth Cymru i ystyried sirchau bod yr iaith yn ystyriaeth gynllunio berthnasol" ac yn gofyn am sefydlu corff statudol fyddai'n asesu'n wrthrychol effaith ceisiadau cynllunio ar yr iaith.
Pleidleisiodd y cyngor o blaid gwelliant y grŵp Llafur "yn galw am eglurder a chryfhau TAN 20."
Awgrymodd y gwelliant y dylai Pwyllgor Gwaith Cyfrifiad y cyngor drafod a chynnig argymhellion.
'Consensws'
Bydd y pwyllgor yn adrodd yn ôl ddiwedd y flwyddyn neu yn gynnar yn 2014.
Dywedodd Toni Schiavone, Llefarydd Cymunedau Cynaliadwy Cymdeithas yr Iaith Gymraeg: "Mae'n braf gweld consensws yn datblygu yn Sir Gaerfyrddin fod angen canllawiau cynllunio cryfach newydd er lles y Gymraeg.
"Ond mae'n drueni nad yw Llywodraeth Cymru yn rhannu'r un dyhead â'r cynghorwyr.
"Yn y cyfamser, mae datblygiadau tai diangen yn niweidio'r Gymraeg a'i chymunedau."
"Mae angen system gynllunio newydd a chadarnach a fydd yn rhoi blaenoriaeth i fuddiannau'r iaith."
Straeon perthnasol
- Published
- 20 Mai 2013
- Published
- 20 Ebrill 2013