Eglwys i gynnig cymorth iechyd meddwl
- Published
Mae eglwys yn Rhosymedre ger Wrecsam yn agor ei drysau i bobl sydd yn dioddef o broblemau iechyd meddwl.
Yn 2012 gwariwyd £80,000 ar adfer a chreu canolfan gymunedol yn Eglwys Sant Ioan.
Yn awr bydd plwyfolion yn gweithio gyda gweithwyr proffesiynol o Advance Brighter Futures Wrexham, elusen iechyd meddwl lleol, i gefnogi pobl yn y gymuned.
Enw'r prosiect newydd yw Angorfa a bydd yn dechrau ar 19 Mehefin gan gynnig dau wasanaeth.
Mae'r cyntaf o'r rhain ar gyfer pobl sydd yn dioddef o ofid neu iselder ysbryd a bydd yn annog cyflawni nodau personol mewn meysydd fel cyflogaeth, lles ac addysg.
Ail ran y prosiect yw cwrs chwe wythnos o sesiynau ymlacio a gynlluniwyd i helpu i leihau straen a lefelau pryder ac i ddysgu pobl sut i ymlacio yn effeithiol.
Mae'r gwasanaethau ar gael ar gyfer pobl sydd yn byw yn Rhosymedre, Plas Madog, Cefn Mawr neu gymunedau cyfagos.
Dywedodd y Parchedig Trish Owens, Curad Cynorthwyol yn yr Eglwys: "Mae hwn yn gyfle gwych i Eglwys Sant Ioan estyn allan i bobl yn yr ardal gyfagos.
"Nid yw prosiect Angorfa ar gyfer y bobl sydd yn mynychu'r eglwys yn unig, mae ar gyfer pobl o ffydd a phobl sydd heb ffydd.
"Mae ar gyfer pobl mewn angen, pwy bynnag ydyn nhw, er mwyn eu cynorthwyo i ddod o hyd i iachâd a heddwch.
"Rydym wir yn edrych ymlaen at ddangos sut y gall yr Eglwys a'r gymuned weithio gyda'i gilydd er lles pobl yn yr ardal," meddai.
Straeon perthnasol
- Published
- 8 Gorffennaf 2012
- Published
- 9 Ionawr 2012