Angladd Georgia Williams
- Cyhoeddwyd

Roedd Georgia Williams wedi bwriadu ymuno gyda'r RAF
Mae angladd Georgia Williams, y ferch 17 oed a gafodd ei darganfod mewn coedwig ger Wrecsam yn cael ei chynnal.
Daethpwyd o hyd i'w chorff ym mwlch Nant-y-Garth rhwng Wrecsam a Rhuthun ddiwedd Mai ar ôl iddi ddiflannu.
Roedd y ferch o Sir Amwythig wedi ei thagu i farwolaeth.
Bydd y gwasanaeth yn cael ei gynnal yn eglwys All Saints yn Wellington, Sir Amwythig, brynhawn Gwener ac mae cronfa wedi ei sefydlu a fydd, yn ôl ei thad Steve Williams, yn 'dathlu bywyd Georgia'.
Mae ei ffrindiau eisoes wedi codi arian i brynu mainc i gofio amdani.
Mae Jamie Reynolds, sydd yn 22 oed ac yn dod o Wellington, wedi ei gyhuddo o lofruddio Georgia Williams.
Straeon perthnasol
- 4 Mehefin 2013
- 4 Mehefin 2013
- 1 Mehefin 2013