Achub dau o gaiac yng Ngwynedd
- Published
Mae dau berson oedd mewn caiac wedi eu hachub wedi iddyn nhw fynd i drafferthion yn Nhrefor, Caernarfon brynhawn Sadwrn.
Cafodd un ohonynt ei anfon gan hofrennydd yr RAF Fali i'r ysbyty yn dioddef o flinder tra bod y person arall wedi cyrraedd y lan ar ôl i fad achub fynd i'w nôl.
Dywedodd gwylwyr y glannau Caergybi bod yr amodau wedi bod yn rhai anodd a'i bod wedi eu cario gan y dŵr yn rhy bell o'r lan.
Dolenni perthnasol ar y we
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol