Casnewydd i herio Brighton
- Published
Cafodd yr enwau eu tynnu o'r het ar gyfer rownd gyntaf Cwpan Capital One yn y tymor pêl-droed newydd.
Dim ond un tîm o Gymru oedd yn yr het ar gyfer y rownd gyntaf, ac enw Casnewydd oedd yr olaf i ddod allan.
Fe fyddan nhw'n teithio i dde-ddwyrain Lloegr i herio Brighton & Hove Albion.
Dyma'r tro cyntaf i Gasnewydd fod yn y gystadleuaeth ers dros chwarter canrif, ond maen nhw'n gymwys i gystadlu eleni ar ôl adennill eu statws yn y Gynghrair Bêl-droed wedi buddugoliaeth yn erbyn Wrecsam yn rownd derfynol y gemau ail gyfle yn Wembley.
Nid yw timau'r Uwchgynghrair yn dod i mewn i'r gystadleuaeth tan yr ail rownd.
Dyna pryd y bydd y deiliaid, Abertawe, a'r tîm gollodd y rownd derfynol yn 2012, Caerdydd, yn dechrau'r daith i Wembley.
Bydd gemau'r rownd gyntaf yn cael eu chwarae yn yr wythnos sy'n dechrau ar Awst 5, 2013.
Rownd gyntaf Cwpan Capital One yn gyflawn :-
Bury v Crewe Alexandra
Shrewsbury Town v Bolton Wanderers
Middlesbrough v Accrington Stanley
Doncaster Rovers v Rochdale
Preston North End v Blackpool
Barnsley v Scunthorpe United
Tranmere Rovers v Mansfield Town
York City v Burnley
Notts County v Fleetwood Town
Sheffield United v Burton Albion
Oldham Athletic v Derby County
Carlisle United v Blackburn Rovers
Morecambe v Wolverhampton Wanderers
Nottingham Forest v Hartlepool United
Leeds United v Chesterfield
Huddersfield Town v Bradford City
Rotherham United v Sheffield Wednesday
Port Vale v Walsall
Gillingham v Bristol City
AFC Bournemouth v Portsmouth
Wycombe Wanderers v Leicester City
Brentford v Dagenham and Redbridge
Exeter City v Queens Park Rangers
Charlton Athletic v Oxford United
Southend United v Yeovil Town
Millwall v AFC Wimbledon
Swindon Town v Torquay United
Birmingham City v Plymouth Argyle
Stevenage v Ipswich Town
Cheltenham Town v Crawley Town
Bristol Rovers v Watford
Northampton Town v Milton Keynes Dons
Leyton Orient v Coventry City
Colchester United v Peterborough United
Brighton and Hove Albion v CASNEWYDD