Miloedd o deiars: pledio'n euog
- Published
Yn Llys y Goron Abertawe mae dau ddyn wedi pleidio'n euog i gyhuddiadau yn ymwneud â storio miloedd o deiars yn anghyfreithlon.
Roedd hyn ar Stad Ddiwydiannol Fforestfach yn Abertawe.
Cafodd Scott Phillips, 44 oed o Fryncoch, Castell-nedd, a Peter Thomas, 67 oed o Benlan, Abertawe, eu cyhuddo o storio gwastraff heb drwydded.
Mae'r ddau wedi eu rhyddhau ar fechnïaeth cyn cael eu dedfrydu ar Orffennaf 29.
Tair wythnos
Roedd tân mawr ddwy flynedd yn ôl pan oedd 5,000 o hen deiars yn llosgi am dair wythnos.
Bu raid i bobl leol adael eu tai a chafodd ysgolion a busnesau eu cau.
Pan gyrhaeddodd diffoddwyr bu raid iddyn nhw chwalu wal Uned 5 er mwyn cyrraedd y teiars a thynnwyd yr adeilad i lawr.
Dywedodd Nicholas Jones o Asiantaeth yr Amgylchedd fod 5,545 o dunelli metrig eu storio yn yr uned.
£1m
Wedi'r tân cafodd y gwastraff ei symud i adran arbennig yng ngwaith dur Port Talbot.
Dywedodd mai'r amcangyfri' oedd y byddai'n costio £1m i gael gwared ar y teiars ond nid oedd yn glir pwy fyddai'n talu.
Mae'r Barnwr Thomas wedi dweud bod angen "gwybodaeth fanwl" am fanylion ariannol y ddau er ei fod yn deall bod Thomas yn fethdalwr.
Hefyd mae wedi gofyn am adroddiad am effaith y tân ar yr amgylchedd.
Yn ôl Mr Jones, roedd Phillips a Thomas wedi dweud wrth yr asiantaeth a'r Cynulliad eu bod yn storio gwastraff ond mai plastig nid teiars oedd o dan sylw.
Mae'r ddau yn gyfarwyddwyr cwmni Global Greener Solutions.
Cofnodwyd dyfarniad dieuog yn achos cyfarwyddwr arall, Dorothy Thomas, 60 oed.
Straeon perthnasol
- Published
- 31 Ionawr 2012
- Published
- 26 Tachwedd 2011
- Published
- 18 Hydref 2011
- Published
- 29 Awst 2011