Damwain: Gweithiwr yn yr ysbyty
- Published
image copyrightArall
Aed ag aelod staff i'r ysbyty oherwydd damwain ar do'r Amgueddfa Genedlaethol yng Nghaerdydd.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw am 2.42pm.
Dywedodd llefarydd ar ran yr amgueddfa: "Roedd gweithiwr yr adran adeiladau'n ymgymryd â gwaith cynnal a chadw pan gafodd ei anafu.
"Bydd ymchwiliad llawn."
Dywedodd y gwasanaeth ambiwlans iddo anafu ei ben, ei gefn a'i goesau.
Yn ôl y Gweithgor Iechyd a Diogelwch: "Rydym yn casglu gwybodaeth cyn penderfynu a oes angen ymchwilio ymhellach."