Cyhoeddi gemau Caerdydd ac Abertawe

  • Cyhoeddwyd
Caerdydd yn dathlu
Disgrifiad o’r llun,
Bydd Caerdydd yn wynebu West Ham yn eu gêm gyntaf ers ennill dyrchafiad ir Uwch Gynghrair

West Ham fydd gwrthwynebwyr cyntaf erioed Caerdydd yn yr Uwch Gynghrair tra bydd Abertawe yn croesawu'r pencampwyr Manchester United i'r Liberty.

Bydd y ddwy gêm yn cael eu chwarae ar ddydd Sadwrn Awst 17 am 3pm.

Manchester City fydd yr ymwelwyr cyntaf i'r brifddinas y Sadwrn canlynol. Gem gartref fydd gan yr Adar Gleision y Sadwrn canlynol hefyd pan fydd Everton a'u rheolwr newydd Roberto Martinez yn ymweld â Stadiwm Dinas Caerdydd.

Disgrifiad o’r llun,
Bydd Abertawe yn gobeithio am ragor o lwyddiant yn ystod y tymor peldroed newydd

Oddi cartref yn Tottenham Hotspur fydd Abertawe ar Awst 24 ac fe fydd yr Elyrch yn teithio i ganolbarth Lloegr y Sadwrn canlynol i herio West Bromwich Albion.

Bydd y ddau dîm o Gymru yn wynebu eu gilydd yng Nghaerdydd ar Tachwedd 2 ac yn Abertawe ar Chwefror 8 2014.

Bydd y tymor yn dod i ben ar Fai 11. Y Sadwrn hwnnw bydd Abertawe oddi cartref yn Sunderland a Chaerdydd yn croesawu Chelsea, Pencampwyr Cynghrair Ewropa.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol