Sgiliau rhifedd disgyblion yn 'wan'

Ann Keane
Image caption Mae angen gwella safonau rhifedd yng Nghymru yn ol Ann Keane

Dyw sgiliau rhifedd llawer o ddisgyblion Cymru ddim yn ddigon da - dyna yw'r neges gan Estyn, y corff sy'n gyfrifol am arolygu ysgolion.

Roedd sgiliau hanner disgyblion ysgolion uwchradd a 40% o rai ysgolion cynradd yn "wan" yn ôl arolygiadau gafodd eu cynnal rhwng 2010 a 2012.

Mewn adroddiad mae Estyn yn dweud nad oes gan nifer o ddisgyblion sgiliau rhifau sylfaenol fel sut i luosi, ac nad ydyn nhw yn gallu cofio ffeithiau allweddol syml.

Bydd arolygwyr yn ail-ymweld â'r un ysgolion dros y ddwy flynedd nesaf er mwyn gweld os oes gwelliant wedi bod o ran gallu mathemategol y disgyblion.

'Testun pryder'

Dywedodd Ann Keane, prif arolygydd Estyn: "Mae llythrennedd yn parhau i fod yn destun pryder mewn ysgolion.

"Rydym yn gwybod nad yw llawer o ysgolion wedi rhoi gymaint o sylw i rifedd ag a gafodd ei roi i lythrennedd, ond mae'n hanfodol bod gan ysgolion gynlluniau clir ar gyfer datblygu gallu rhifedd.

"Mae angen i'r cynlluniau fynd i'r afael â sgiliau rhifedd gwan pobl ifanc fel eu bod yn gallu gwneud rhifyddeg pen, deall ymresymu rhifiadol a pheidio â gorfod dibynnu ar gyfrifiannell.

"Mae rhifedd sylfaenol yn un o fedrau hanfodol bywyd y mae ei angen yn y rhan fwyaf o swyddi ac i reoli cyllid personol. Ond mae mwyafrif o ddisgyblion yn cael trafferth deall sut mae rhifedd yn berthnasol i'w bywydau bob dydd, ac mae angen mynd i'r afael â hyn.

"Rydym yn gwybod na fydd newid yn digwydd dros nos. Bydd astudiaeth Estyn dros y ddwy flynedd nesaf yn olrhain y cynnydd a wneir gan ein sampl o ysgolion, ac yn adrodd ar weithredu'r Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd newydd, a'i effaith."

Sgiliau rhifedd hanfodol

Yn ôl yr adroddiad mae nifer uchel o ddisgyblion yn cael trafferth gwneud y symiau mathemategol mwyaf sylfaenol.

Mae hyn er gwaetha'r ffaith bod rhaglen rifedd Llywodraeth Cymru'n dweud eu bod eisiau "dysgwyr o bob oedran yn fwy hyderus yn eu sgiliau rhifedd a byddan nhw'n gallu defnyddio'r sgiliau hyn o fewn gwahanol bynciau a chyd-destunau."

Mae'r rhaglen hefyd yn dweud mai'r nod yw bod "dysgwyr sy'n gadael addysg orfodol yn meddu ar y sgiliau rhifedd sy'n hanfodol er mwyn cael swydd neu brofiad addysg bellach llwyddiannus".

Ond mae adroddiad Estyn yn awgrymu nad yw hyn yn digwydd ar hyn o bryd.

Yn 2012 cafodd y rhaglen ei chyflwyno felly mae'r rhan fwyaf o'r adroddiad yn ymwneud â blynyddoedd cyn iddo gael ei gyhoeddi.

Meddai'r adroddiad: "[Mae] disgyblion yn aml yn cael anhawster defnyddio ymresymu i ddatrys problemau ysgrifenedig am fod llawer o'r ysgolion yn addysgu technegau ysgrifenedig ar gyfer datrys symiau cyn bod dealltwriaeth gadarn gan y disgyblion o rif a gwerth lle.

"Mae rhai disgyblion yn cael trafferth gyda degolion, ffracsiynau a chanrannau, fel deall y perthnasoedd rhwng 2/5, 0.4 a 40%"

O ran mesur llwyddiant y rhaglen rhifedd, dywedodd llefarydd ar ran y llywodraeth: "Mae'r argymhellion yn adroddiad Estyn yn dangos pam fod y camau sydd wedi eu hamlinellu yn y Rhaglen Rifedd Cenedlaethol yn allweddol o ran helpu i godi lefelau cyrhaeddiad cyffredinol mewn rhifedd yn ysgolion yng Nghymru."

Ymateb

Mae datganiad y llywodraeth hefyd yn dweud: "Mae'r Gweinidog Addysg Leighton Andrews wedi dweud ei fod wedi ymrwymo i wella safonau rhifedd ledled Cymru.

"Mae'r adroddiad yma yn dangos lle rydym wedi bod yn llwyddiannus yn datblygu sgiliau rhifedd yn ein hysgolion ac yn dysgu rhifedd ar draws y cwricwlwm a lle mae angen gwella'r perfformiad.

"Bydd yr argymhellion yn llywio gwaith Llywodraeth Cymru, awdurdodau lleol ac ysgolion er mwyn sicrhau bod lefelau rhifedd yn gwella."

Ond mae'r Ceidwadwyr yn dweud bod adroddiad Estyn yn dystiolaeth bod safonau addysg yn gwaethygu.

'Tystiolaeth ddamniol'

Eu llefarydd addysg yw Angela Burns, ac fe ddywedodd hi mewn datganiad: "Mae'r adroddiad hwn yn dystiolaeth ddamniol o ddirywiad addysgol mewn medrau allweddol ymhellach yn ystod 14 mlynedd o lywodraethau Llafur olynol yng Nghymru.

"Os yw plentyn yn gadael yr ysgol heb sgiliau llythrennedd a rhifedd sylfaenol, bydd eu gyrfa gyfan a rhagolygon bywyd yn y dyfodol yn cael ei ddal yn ôl.

"Rydym yn cystadlu mewn economi sy'n gynyddol fyd-eang, ac os na all ein pobl ifanc wneud mathemateg syml, fe fyddan nhw yn colli allan yn y farchnad swyddi i rai o wledydd eraill sydd â sgiliau y mae cyflogwyr yn chwilio amdanyn nhw."

Mae'r adroddiad yn dod deuddydd wedi cyhoeddiad canlyniadau adroddiad Hill, wnaeth argymell bod angen lleihau nifer yr awdurdodau lleol o 22 i 14 yn fuan.

Roedd yr adroddiad hefyd yn dweud bod angen "ad-drefnu swyddogaethau'r awdurdodau addysg lleol yn llwyr" yn y pen draw.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.