Achos Bala: yn euog o ddynladdiad

Bala
Image caption Cafwyd hyd i gorff Branislav Gula mewn fflat yn y Bala ym mis Tachwedd 2012

Yn Llys y Goron Caernarfon cafwyd y gweithiwr popty Julius Hecko yn euog o ddynladdiad wedi i gorff gael ei ddarganfod yn Y Bala fis Tachwedd.

Roedd y dyn 23 oed yn ddieuog o lofruddiaeth ac yn ddiemosiwn pan gyhoeddwyd y dyfarniad.

Bu farw Branislav Gula, 42 oed, yn ei fflat yn Heol y Plase wedi'r hyn gafodd ei ddisgrifio yn "frwydr dreisgar".

Dywedodd yr erlyniad fod Mr Gula wedi marw oherwydd aniafiadau difrifol i'w ben.

Canabis

Roedd y ddau o Slofacia'n wreiddiol a bydd Hecko'n cael ei ddedfrydu'n hwyrach.

Clywodd y llys fod y diffynnydd wedi bod yn yfed a smocio canabis am oriau cyn yr ymosodiad.

Mae Jodie Jackson, 18 oed o Gorwen, a Richard Vanstone, 44 oed o Flaenau Ffestiniog, wedi gwadu roi cymorth i droseddwr drwy olchi ei ddillad wedi'r drosedd.

Hefyd mae Mr Vanstone a Mark Roberts, 37 oed o Ddolgellau, wedi gwadu gwyrdroi cwrs cyfiawnder.

Bydd y rheithgor yn ystyried eu dyfarniadau ddydd Iau.

Mewn datganiad roedd Hecko wedi honni bod Mr Gula wedi ei daro ac ar fin cydio mewn cyllell.

Dywedodd iddo geisio amddiffyn ei hun ac nad oedd yn bwriadu achosi anafiadau difrifol.

Straeon perthnasol