Gŵyl i ddathlu 25 mlynedd ers sefydlu Golwg
- Cyhoeddwyd

Mae gŵyl yn cael ei chynnal yn Llanbedr Pont Steffan i ddathlu 25 mlynedd ers i gylchgrawn Cymraeg Golwg gael ei sefydlu.
Yma y cafodd y rhifyn cyntaf ei gyhoeddi ym mis Medi 1988 a chwarter canrif wedyn bydd cyfres o ddigwyddiadau yn dathlu'r pen-blwydd.
Noson gomedi fydd ar nos Iau, Medi 5, a champws y brifysgol fydd canolbwynt yr wŷl.
Amrywiaeth
Bydd rhywfaint o'r arlwy yn cael ei gyhoeddi ddiwedd Mehefin a'r gweddill ym mis Gorffennaf.
Ond mae Owain Schiavone, sy'n trefnu'r digwyddiad yn addo amrywiaeth o gerddoriaeth, gweithdai celf, sgyrsiau llenyddol, ffilm a gweithgareddau i blant.
"Dw i'n meddwl fod ein cynllun yn uchelgeisiol a chyffrous.
"Mae Golwg wedi gwneud cyfraniad mawr i bob math o elfennau o fywyd Cymraeg dros y chwarter canrif ddiwethaf ac mae'n bwysig nodi hynny.
"Pa ffordd well na thrwy gynnal gŵyl sy'n rhoi llwyfan i'r bywyd Cymraeg, a hynny yng nghartref y cwmni yn Llanbed?"
'Ysbryd'
Ychwanegodd Dylan Iorwerth, Golygydd Gyfarwyddwr Golwg ac un o sylfaenwyr y cylchgrawn: "O'r dechrau, nod Golwg oedd bod yn amrywiol, yn fywiog a newydd ac mae cynnal gŵyl newydd i ddathlu ein pen-blwydd yn dangos fod yr ysbryd yn parhau.
"Mae'n anodd credu bod hi'n 25 mlynedd ers i ni ddechrau cyhoeddi'r cylchgrawn ond mae'n stori lwyddiant a'r un cylchgrawn wedi tyfu'n gwmni sy'n cyhoeddi tri o gylchgronau, yn cynnal gwefan newyddion di-dor yn ogystal â chynnig gwasanaethau sgrifennu, dylunio ac argraffu."
Straeon perthnasol
- 29 Rhagfyr 2011