Jamie Barton yw Canwr y Byd Caerdydd 2013

  • Cyhoeddwyd

Jamie Barton yw enillydd cystadleuaeth BBC Canwr y Byd Caerdydd 2013.

Y mezzo-soprano o'r Unol Daleithiau oedd enillydd gwobr y gân nos Wener hefyd.

Cyflwynwyd y wobr gan noddwr y gystadleuaeth, y Fonesig Kiri te Kanawa.

Y pedwar arall yn y rownd derfynol oedd Olena Tokar (Wcráin); Marko Mimica (Croatia) Teresa Romano (Yr Eidal) a Daniela Mack (Ariannin)

Enillydd gwobr y Fonesig Joan Sutherland, sef dewis y gynulleidfa oedd y tenor Ben Johnson o Loegr.

Eleni roedd y gystadleuaeth yn dathlu 30 mlynedd ers iddi gael ei chynnal am y tro cyntaf.

Hefyd gan y BBC