George North yn ymddiheuro
- Cyhoeddwyd

Mae asgellwr Cymru a'r Llewod George North wedi datgelu ei fod wedi ymddiheuro i fewnwr Awstralia ar ôl sgorio'i gais yn y prawf cyntaf wythnos yn ôl.
Cyn croesi'r llinell, fe gododd North ei fys at Wil Genia ar ddiwedd rhediad 60 llath i roi'r Llewod ar y blaen, ac fe gafodd ei feirniadu am hynny.
"Rwy'n teimlo'n ofnadwy am y peth," meddai North, " ac fe wnes i ddweud sori ar ddiwedd y gêm.
"Mae'n anodd achos ges i fy nal yn emosiwn y peth a dydw i ddim yn gwybod pam y gwnes i hynny."
Datgelodd North hefyd bod rheolwr y Llewod, Andy Irvine, wedi cael gair gydag e am y digwyddiad.
Wedi dweud hynny go brin y bydd Irvine na neb arall yn cwyno os fydd North yn llwyddo i efelychu'r gamp ddydd Sadwrn yn yr ail brawf.
Byddai buddugoliaeth yn golygu bod y Llewod yn ennill cyfres am y tro cyntaf ers 1997, a'r gyntaf yn Awstralia ers 1989, ac mae'r hyfforddwr Warren Gatland wedi siarsio'i chwaraewyr i fanteisio ar y cyfle.
"Rhaid i ni sicrhau bod y chwaraewyr yn ymwybodol o bwysigrwydd y gêm ddydd Sadwrn. Mae hi mor agos.
"Mae pwysau'r disgwyliadau yn anferth a rhaid i ni wneud yn siŵr nad yw hynny'n ormod - rhaid sicrhau cydbwysedd rhwng sylweddoli'r cyfrifoldeb a chwarae gyda rhyddid i ennill y gyfres."
Mae'r maswr Jonathan Sexton wedi dweud bod sgwrs gyda Brian O'Driscoll wedi ysbrydoli'r tîm. Roedd O'Driscoll yn rhan o dîm y Llewod a gollodd y gyfres yn Awstralia yn 2001 ar ôl ennill y prawf cyntaf.
"Pan ddigwyddodd hynny i Brian, fe ddywedodd e 'Dwi ond yn 21 ac fe ddaw cyfle arall', ond dyma ni 12 mlynedd yn ddiweddarach.
"Mae Warren Gatland wedi pwysleisio'r un peth. Dyw cyfleoedd fel hyn ddim yn dod yn aml, ac mae e am lwyddo er mwyn pobl fel Brian a Paul O'Connell."
TÎM Y LLEWOD v. AWSTRALIA - YR AIL BRAWF: Melbourne, Dydd Sadwrn Mehefin 29:-
15. Leigh Halfpenny (Cymru)
14. Tommy Bowe (Iwerddon)
13. Brian O'Driscoll (Brian O'Driscoll)
12. Jonathan Davies (Cymru)
11. George North (Cymru)
10. Jonathan Sexton (Iwerddon)
9. Ben Youngs (Lloegr)
1. Mako Vunipola (Lloegr)
2. Tom Youngs (Lloegr)
3. Adam Jones (Cymru)
4. Alun Wyn Jones (Cymru)
5. Geoff Parling (Lloegr)
6. Dan Lydiate (Cymru)
7. Sam Warburton (Cymru, capten)
8. Jamie Heaslip (Iwerddon).
Eilyddion: Richard Hibbard (Cymru), Ryan Grant (Yr Alban), Dan Cole (Lloegr), Tom Croft (Lloegr), Sean O'Brien (Iwerddon), Conor Murray (Iwerddon), Owen Farrell (Lloegr), Alex Cuthbert (Cymru).