Dechrau clirio asbestos yn Ysgol Cwm Carn

  • Cyhoeddwyd
Cwmcarn High School
Disgrifiad o’r llun,
Mae disgwyl i'r ysgol ailagor ym mis Medi

Mae gwaith wedi dechrau i gael gwared â'r asbestos mewn ysgol yn ardal Caerffili.

Cafodd asbestos ei ddarganfod yn Ysgol Uwchradd Cwmcarn yn 2012 ac ers hynny mae'r disgyblion wedi bod yn cael eu haddysg ar gampws Glyn Ebwy Coleg Gwent.

Yn Chwefror gorymdeithiodd rhieni 900 o blant oedd am i'r ysgol ailagor.

Cyngor Caerffili fydd yn talu'r gost i gael gwared â'r asbestos sef £1 miliwn ac mae disgwyl i'r disgyblion ddychwelyd i'r ysgol ym mis Medi.

Tensiwn

Yn y gorffennol roedd tensiwn rhwng yr ysgol a'r cyngor wrth i'r cyngor feio "diffyg cynnydd" ar y llywodraethwyr oedd wedi dweud bod amodau'r cyngor yn "feichus".

Ond wedi cyfarfod rhwng y ddwy ochr cytunwyd y byddai'r cyngor yn talu i glirio'r asbestos.

Dywedodd cadeirydd llywodraethwyr yr ysgol Gary Thomas: "Bydd pobl leol yn sylwi bod yna rywbeth yn digwydd ar safle Cwmcarn wrth i gontractwyr ddechrau'r gwaith i gael gwared â'r asbestos o'r adeilad.

'Arwyddion clir'

"Mae hyn yn newyddion gwych ac, yn amlwg, yn dangos y camau ymlaen yn sgil ein cytundeb gyda'r cyngor i gael yr ysgol yn ôl ar ei thraed erbyn dechrau Medi."

Dywedodd y Cynghorydd Rhianon Passmore, sydd yn gyfrifol am addysg: "Mi wnaethon ni ddweud y bydden ni yn gweithio yn gyflym i ddatrys y broblem unwaith yr oedd penderfyniad wedi ei wneud a dwi wrth fy modd bod yna arwyddion clir o gynnydd.

"Mae yna lawer i wneud mewn amser byr ond rydyn ni yn gweithio yn agos gydag arweinwyr yr ysgol ac yn hyderus y bydd y gwaith wedi ei orffen yn brydlon ac o fewn y gyllideb."