Yn ddi-euog o achosi marwolaeth

  • Cyhoeddwyd
Llys y Goron Caernarfon
Disgrifiad o’r llun,
Cafodd yr achos ei gynnal yn Llys y Goron Caernarfon

Yn Llys y Goron Caernarfon cafwyd gŵr ifanc o ardal Bala yn ddieuog o achosi marwolaeth drwy yrru'n beryglus.

Roedd Reece Childs, 19 oed o Flaen Ddôl ger y Bala, yn gwadu ei fod yn rasio yn erbyn car arall pan ddigwyddodd y ddamwain ar yr A494 yn y Bala ym Mai 2012.

Bu farw Lona Wyn Jones o Ddolgellau o ganlyniad i'r ddamwain.

Mae dyn arall o Flaen Ddôl, Ian Wyn Edwards, 24 oed, eisoes wedi pledio'n euog i gyhuddiad o achosi marwolaeth drwy yrru'n beryglus.

'Synhwyrol'

Dywedodd Mr Childs ei fod yn gyrru ei Vauxhall Corsa ar "gyflymder synhwyrol a diogel" a'i fod wedi sylwi ar gar arian y tu ôl iddo cyn y ddamwain.

Roedd yr erlynwyr yn honni bod Mr Childs wedi symud ei gerbyd i ochr arall y lôn er mwyn ceisio atal Mr Edward rhag ei basio, gan ddefnyddio'r brêc llaw.

Fe gafodd Ms Jones, oedd yn eistedd yng nghefn car Mr Edwards, anafiadau marwol i'w phen wedi i'r Ford Fiesta lanio ar ei do.