1,000 yn gorymdeithio yng Nghaerdydd
- Cyhoeddwyd

Daeth bron i 1,000 o filwr i orymdeithio yng Nghaerdydd heddiw fel rhan o ddigwyddiadau Diwrnod y Lluoedd Arfog.
Mae'r diwrnod yn disgyn ar 70 mlwyddiant Brwydr yr Iwerydd - ymgyrch filwrol hiraf yr Ail Ryfel Byd.
Dywedodd y Prif Weinidog Carwyn Jones bod y digwyddiad yn adlewyrchu'r "ddyled enfawr o ddiolchgarwch" sydd gan bobl i'r lluoedd arfog.
Ymunodd Mr Jones â'r digwyddiadau a ddechreuodd gyda'r orymdaith o Gastell Caerdydd.
Ychwanegodd Mr Jones: "Rwy'n credu'n gryf y dymel gofio am y gorffennol a'r bobl wnaeth aberthu cymaint er mwyn ein diogelwch.
"Mae'n bwysig bod cenedlaethau'r dyfodol yn ymwybodol o'r hanes ac yn cofio'r rhai a frwydrodd drosom ni, ac am y rhai sy'n parhau i frwydro drosom, fel y gallwn fwynhau'r pethau yr ydym yn cymryd yn ganiataol heddiw."
Cronfa
Mae'r Gweinidog Tai Carl Sargeant hefyd yn cyhoeddi bydd cronfa o £2m yn cael ei sefydlu er mwyn rhoi help llaw i gyn-filwyr ddarganfod lloches.
Dywedodd Dave Morris, trefnydd y digwyddiad: "Mae Diwrnod y Lluoedd Arfog De Cymru yng Nghaerdydd wedi dod yn ddigwyddiad blynyddol pwysig sydd wedi tyfu o ran cyfraniad y lluoedd arfog, cyn-filwyr a'u teuluoedd a chefnogaeth a phresenoldeb y cyhoedd yn gyffredinol.
"Hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi helpu gwneud hyn yn bosibl. Mae'r arddangosfeydd a'r gweithgareddau ysblennydd yn gwneud hwn yn ddiwrnod gwych i'r teulu."
Yn cyhoeddi sefydlu'r gronfa ar gyfer cyn filwyr, dywedodd y Gweinidog Tai Carl Sargeant: "Rwy'n falch cael datgan y bydd y cyllid hwn ar gael, ac mae'n briodol iawn ein bod yn cyhoeddi hyn ar ddiwrnod y Lluoedd Arfog.
"Rwyf i a Llywodraeth Cymru yn cydnabod cyfraniad hollbwysig y lluoedd arfog wrth wasanaethu dros ein gwlad a dylai'r arian hwn ein galluogi i ddarparu tai gwell iddynt yma yng Nghymru.
Straeon perthnasol
- 5 Mawrth 2013
- 15 Mehefin 2012
- 4 Chwefror 2012