Deifwyr yn nodi 60 mlynedd
- Published
Bydd grŵp o 60 o ddeifwyr yn nodi pen-blwydd y corff sy'n rheoli'r gamp gyda pharti tanddwr ger arfordir Ynys Môn.
Fe fydd y deifwyr yn plymio i weddillion llong a suddodd yno yn 1886.
Mae llong Americanaidd y Missouri yn gorwedd ar wely'r môr ym Mhorth Dafarch yn ymyl Caergybi.
Mae'r digwyddiad yn un o gyfres i nodi pen-blwydd Cymdeithas Tanddwr Prydain (BSAC) yn 60 oed.
Dywedodd Ken Oakes o glwb tanddwr Sir y Fflint: "Rwy'n credu ein bod am ddathlu'r jiwbilî, ac mae dod at ein gilydd i ddeifio i'r Missouri yn ffordd ddelfrydol o nodi'r pen-blwydd.
"Mae'n syniad gwych ac fe ddylai fod yn brofiad i'w gofio. Gobeithio bydd y tywydd yn dda - fe ddylai'r golygfeydd o dan y môr fod yn odidog os yw'r dŵr yn glir."
Suddodd y Missouri yn ystod yr hyn gafodd ei ddisigrifio fel y storom eira waethaf mewn dau ddegawd ar Fawrth 6, 1886.
Aeth y llong stêm 3,000 tunnell i lawr ar ôl taro creigiau tua milltir o'r goleudy ar Ynys Lawd.
Roedd wedi teithio o ddinas Boston yn America gyda llwyth o bron 400 o wartheg.
Cafodd y criw i gyd eu hachub, ond boddodd tua 270 o'r anifeiliaid.
Dywedodd Steve Ellis, hyfforddwr clwb tanddwr Wrecsam, bod aelodau'r clwb yn awyddus iawn i ymuno â deifwyr o Gaer, Crewe, Gwynedd ac Ynys Môn ar gyfer y digwyddiad.
Dywedodd: "Fe fydd yn brofiad unigryw yn sicr ac mae pawb yn edrych ymlaen."