Steve Churchman: Ymgeisydd DemRhydd

  • Cyhoeddwyd
Steve ChurchmanFfynhonnell y llun, Steve Churchman
Disgrifiad o’r llun,
Mae Steve Churchman, 50, yn un o gynghorwyr Gwynedd

Mae'r Democratiaid Rhyddfrydol wedi dewis Steve Churchman fel eu hymgeisydd yn isetholiad Cynulliad Ynys Môn ar Awst 1.

Byd yr isetholiad yn cael ei gynnal yn dilyn ymadawiad yr aelod blaenorol, Ieuan Wyn Jones, er mwyn symud i swydd newydd fel arweinydd Parc Gwyddoniaeth Menai.

Wedi iddo gael ei ddewis fel ymgeisydd y Democratiaid Rhyddfrydol, dywedodd Mr Churchman:

"Mae'n anrhydedd cael fy newis gan aelodau i fod yn ymgeisydd y Democratiaid Rhyddfrydol yn yr isetholiad hwn.

"Blaenoriaeth y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig yw creu economi gryfach ar Ynys Môn. Mae angen swyddi ar yr ynys a hynny'n gyflym.

"Mae'r isetholiad yma yn refferendwm ar record y Llywodraeth Lafur yng Nghymru. Wedi 14 mlynedd o redeg y wlad mae gan Gymru economi wan, diffyg cyllid i ysgolion a gwasanaeth iechyd sy'n costio mwy ond yn darparu llai.

"Mae eu record yn un o fethiant llwyr ac mae pobl Ynys Môn yn haeddu gwell.

"Am rhy hir mae Llywodraeth Lafur Cymru wedi caniatáu i Ynys Môn fynd yn angof yng Nghymru - mae amseroedd ymateb ambiwlans gwarthus yn pwysleisio hyn.

"Mae'r methiannau yma yn symptom o fethiant Llafur i warchod ein gwasanaeth iechyd. Bydd pleidlais dros Ddemocratiaid Rhyddfrydol Cymru yn dod â diwedd i'r difaterwch ofnadwy yma."

Mae Plaid Cymru wedi dewis Rhun ap Iorwerth fel eu hymgeisydd nhw, a Llafur Cymru wedi dewis Tal Michael i frwydro'r isetholiad. Nathan Gill yw ymgeisydd UKIP a Neil Fairlamb sydd yn cynrychioli'r Ceidwadwyr.