Mesur Rhoi Organau: Cwestiwn ac Ateb

Senedd
Image caption Beth fydd y newidiadau yn ei olygu i ddinasyddion Cymru?

Mae'r Cynulliad wedi cymeradwyo'r Mesur Rhoi Organau - deddf fydd yn newid y system rhoi organau yng Nghymru.

Ar hyn o bryd mae pobl sydd am i'w horganau gael eu defnyddio wedi iddyn nhw farw'n gorfod nodi eu dymuniad i wneud hynny.

O dan y system newydd, fydd yn dod i rym ar 1 Ragfyr, 2015, bydd tybiaeth fod pawb yn fodlon rhoi organau os nad ydynt wedi nodi fel arall.

Sut bydd y system yn newid?

Ar hyn o bryd cyn i organau gael eu cymryd gan rywun sydd wedi marw, mae'n rhaid i o leiaf un o'r ddau ddatganiad yma fod yn wir:

A) Roedd yr ymadawedig wedi arwyddo Cofrestr Rhoddwyr Organau y Gwasanaeth Iechyd;

NEU

B) Mae teulu'r ymadawedig yn fodlon i'w organau gael eu cymryd.

O dan y system newydd bydd pobl dal yn gallu arwyddo cofrestr i ddweud eu bod am i'w horganau gael eu defnyddio.

Y gwahaniaeth rhwng yr hen system a'r un newydd yw y bydd tybiaeth fod pobl sydd heb ddweud naill ffordd neu'r llall wedi rhoi caniatâd.

A fydd rôl y teulu o ran gwneud penderfyniad yn newid?

Mae hyn wedi bod yn rhan ganolog o'r trafodaethau o'r cychwyn cyntaf. Ar hyn o bryd nid oes gan deulu'r ymadawedig hawl gyfreithiol i atal yr organau rhag cael eu cymryd os yw'r person yna wedi arwyddo'r gofrestr, ond mewn gwirionedd mae doctoriaid yn annhebygol o gymryd yr organau os yw'r teulu yn teimlo'n gryf yn erbyn hynny.

Fe gyhoeddodd y Gweinidog Iechyd Mark Drakeford yn ddiweddar y byddai gan deuluoedd "hawl glir i wrthwynebu". Mae hefyd yn annhebygol (ond nid yn amhosibl) y byddai organau'n cael eu cymryd hyd yn oed os yw'r ymadawedig wedi rhoi caniatâd pendant os nad yw'r teulu yn bresennol. Y rheswm am hyn yw bod doctoriaid yn aml eisiau gwybodaeth ychwanegol am y person fel ei ffordd o fyw a'i hanes meddygol.

A fydd gan aelodau'r teulu'r hawl i atal organau'r ymadawedig rhag cael eu defnyddio?

Yn gyfreithiol, na. Ond mae'n annhebygol iawn y bydd organau yn cael eu cymryd os yw teulu neu ffrindiau'r ymadawedig yn gwrthwynebu.

O dan y system newydd bydd gan deulu a ffrindiau'r hawl i wrthwynebu os ydyn nhw'n gwybod na fyddai'r ymadawedig am i'w organau gael eu defnyddio. Bydd staff meddygol yna'n penderfynu os dylid cymryd yr organau ai peidio.

Os yw aelodau o'r teulu yn gwrthwynebu ond yn methu profi bod yr ymadawedig yn gwrthwynebu, bydd gan y staff meddygol hawl i gymryd yr organau. Ond mae'n annhebygol y byddai hynny'n digwydd gan fod dyletswydd ar staff clinigol i beidio ag achosi trallod pellach i deulu sydd newydd ddioddef profedigaeth.

Beth am bobl sy'n marw tra ar wyliau yng Nghymru neu yn fyfyriwr yma?

Bydd angen i rywun fyw yng Nghymru am 12 mis cyn i'w ganiatâd fod yn dybiedig.

Pwy arall fydd ddim yn cael ei effeithio gan y system newydd?

Pobl sydd ddim yn oedolion (dan 18), pobl sy'n byw yng Nghymru ond sy'n marw mewn rhan arall o'r Deyrnas Unedig a phawb sydd ddim yn berchen ar y gallu meddyliol i wneud y penderfyniad.

Faint fyddai'n debygol o elwa o'r y newid i'r system?

Mae'n anodd iawn amcangyfrif hyn gan fod cymaint o ffactorau i'w hystyried.

Mae Llywodraeth Cymru'n amcangyfrif y byddai organau'n gallu cael eu cymryd gan 15 person ychwanegol y flwyddyn o dan y system newydd - sy'n cyfateb i 45 organ ychwanegol.

Maen nhw hefyd yn amcangyfrif bod 250 o bobl ar y rhestr aros ar gyfer derbyn organau ar gyfartaledd ar gyfer unrhyw bryd.

Fe wnaeth 33 o bobl farw yng Nghymru yn 2012-13 tra ar y rhestr aros.

Pa organau fydd yn cael eu cymryd?

Yr un rhai o dan y system bresennol sef organau a meinweoedd yn cynnwys: arennau, y galon, yr afu, yr ysgyfaint, y pancreas, y coluddyn bach, croen, esgyrn, tendonau a chartilag.

Ai ond yng Nghymru y bydd yr organau'n cael eu defnyddio?

Na, bydd dim newid i'r system bresennol yn hyn o beth. Bydd organau o Gymru'n cael eu defnyddio ymhob rhan o'r DU, a bydd organau o weddill y DU yn cael eu defnyddio yng Nghymru.

Pryd bydd y system newydd yn dod i rym?

O 2015 ymlaen. Bydd hyn yn rhoi digon o amser i'r llywodraeth hysbysu'r cyhoedd am y newid.

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.