Ymweliad brenhinol yn y gogledd
- Published
Mae Tywysog Charles a Duges Cernyw yn y gogledd ar ail ddiwrnod taith yr haf.
Aeth y ddau i Gapel y Rug yng Nghorwen, Sir Ddinbych, cyn cwrdd â staff siop fferm organig.
Y Cyrnol William Salesbury gododd y capel yn yr ail ganrif ar bymtheg.
Wedyn mae'r tywysog yn mynd i waith treuliad anaerobig GwyriAD yng Nglynnog Fawr ger Caernarfon.
11,500
Y nod yw troi 11,500 o dunelli metrig o wastraff bwyd y flwyddyn yn ynni adnewyddol.
Yna mae'r ddau'n ymweld ag Eglwys Beuno Sant, Pistyll ym Mhen Llŷn.
Yn yr eglwys o'r chweched ganrif roedd pererinion yn gorffwys cyn teithio i Ynys Enlli.
Ar y diwrnod cynta' aeth y ddau i gyn gartref Dylan Thomas yn Nhalacharn, Sir Gâr.
Bu'r cwpwl yn cwrdd â staff yr amgueddfa yn y Tŷ Cwch yn Nhalacharn.
Wyres
Aeth Charles a Camilla ar daith o gwmpas yr adeilad, sydd bellach yn ganolfan dreftadaeth, siop lyfrau a chaffi, gydag wyres Dylan Thomas, Hannah Elis.
Yn ddiweddarach cyflwynodd y tywysog fedalau i staff Heddlu Dyfed Powys ym mhencadlys y llu yn Llangynnwr.
Aeth Duges Cernyw i wasg annibynnol fwyaf Cymru, Gwasg Gomer, yn Llandysul, Ceredigion.