Abertawe yn arwyddo Shelvey
- Published
Mae Clwb Pêl-droed Abertawe wedi arwyddo Jonjo Shelvey o Lerpwl am £5 miliwn.
Fe chwaraeodd Shelvey, 21 oed, i Loegr am y tro cyntaf yn erbyn San Marino yn 2012 ac mae wedi chwarae i Lerpwl 69 o weithiau gan sgorio chwe gôl.
Roedd cadeirydd yr Elyrch Huw Jenkins wedi dweud ei fod yn awyddus i gynyddu'r nifer chwaraewyr o Brydain er mwyn cadw at reolau'r Uwchgynghrair.
Mae chwaraewyr Abertawe yng nghanol eu taith o amgylch yr Iseldiroedd.
'Dim dewis'
Dywedodd Mr Jenkins: "Rhaid i ni wneud yn siŵr bod cynnwys ein carfan yn iawn.
"Yn amlwg, rhan o hynny yw gwneud yn siŵr bod gennym ddigon o chwaraewyr Prydeinig.
"Rhaid i ni wneud hynny - does dim dewis oherwydd y rheolau."
Shelvey yw'r chweched chwarewr newydd i ymuno â'r Elyrch ers diwedd y tymor - mae'r clwb eisoes wedi arwyddo Alejandro Pozuelo, Jose Canas, Jordi Amat, Gregor Zabret a Alex Gogic.
Straeon perthnasol
- Published
- 2 Gorffennaf 2013
- Published
- 28 Mehefin 2013