Eisteddfod eisiau 'apelio mwy at yr ifanc'
- Cyhoeddwyd

Dros y flwyddyn ddiwetha' mae Eisteddfod Genedlaethol wedi bod yn holi barn pob mathau o bobl ynglŷn â'r Brifwyl - ac yn eu plith, pobl ifanc.
Buon nhw'n holi grwpiau mewn chwe lleoliad ar draws Cymru, gan ofyn eu barn am y maes gwersylla, Maes B a'r Eisteddfod yn gyffredinol.
Mae'r sefydliad yn awyddus i apelio mwy at eisteddfodwyr ifanc ac wedi cyflwyno nifer o newidiadau i'r ddarpariaeth ar eu cyfer eleni.
Bydd nifer o welliannau i Faes B a'r maes ieuenctid, er enghraifft, yn ogystal ag adeilad pwrpasol ar gyfer pobl ifanc ar y Maes.
Ond penderfynwyd na fyddai'n addas i symud holl ddigwyddiadau Maes B i'r prif safle.
'Teimlad o ŵyl'
Meddai'r Prif Weithredwr Elfed Roberts: "Roedd 'na rhai oedd yn teimlo y dylid symud gweithgareddau Maes B i'r llwyffan perfformio ar y Maes. Ond fe gawson ni wybod yn reit ddi-flewyn ar dafod na fyddai hynny'n plesio'r bobl ifanc. Roeddan nhw eisiau Maes B ar wahân.
"Roedd eraill yn dweud bod angen i ni wneud 'chydig bach mwy o ran harddu'r lle - trio creu teimlad o ŵyl yno...'Dan ni wedi cyflogi rhywun i weithio efo'r bobl ifanc a ni i gynllunio'r lle 'chydig bach yn well, felly bydd o'n edrych yn well i'r llygad hefyd."
Ar y Maes yn Ninbych eleni, bydd safle arbennig ar gyfer pobl ifanc, ble bydd amryw o weithgareddau yn cael eu cynnal.
"Yn Sir Ddinbych eleni mi fydd Caffi Maes B yn cael ei gyflwyno am y tro cyntaf," esbonia Mr Roberts.
"Adeilad sydd yn edrych 'chydig bach yn wahanol i weddill adeiladau'r Maes, ac yno mi fydd 'na wahanol weithgareddau ar gyfer pobl ifanc.
"Fydd 'na ddim bandiau'n chwarae cerddoriaeth uchel - stwff acwstig fydd rhan fwya'. Ond mi fydd 'na hefyd sesiynau holi ac ateb, sesiynau trafod."
Endaf Gremlin
Mae'r Eisteddfod yn cydweithio gyda sefydliadau megis y Sefydliad Cerddoriaeth Gymreig a threfnwyr gwyliau eraill fel Nyth a Sŵn.
"Y syniad ydy ein bod ni'n trio adlewyrchu'r hyn sydd yn digwydd yn y byd roc yng Nghymru," ychwanegodd Mr Roberts.
Yn ogystal, mae'r Brifwyl wedi cael arian i sefydlu supergroup ar gyfer yr ŵyl eleni, ac mae Endaf Gremlin ar daith o amgylch Cymru ar hyn o bryd ac yn cynnal gweithdai i bobl ifanc cyn y cyngherddau.
"Erbyn yr Eisteddfod fe fydd gan Endaf Gremlin set o wyth o ganeuon ac, yn ôl yr adborth dwi wedi'i glywed gan bobl ifanc, maen nhw'n dipyn o grŵp erbyn hyn," meddai'r prif weithredwr.
"Mae hyn i gyd yn codi proffil y gweithgareddau mae'r Eisteddfod yn eu trefnu ar gyfer pobl ifanc a 'dan ni'n gobeithio y byddan ni'n gallu gwneud mwy o hyn yn y dyfodol."
Gŵyl Llên Plant
Bydd mwy o arlwy ar gyfer plant ar y Maes yn Ninbych hefyd, gyda Gŵyl Llên Plant yn cael ei chynnal am y tro cynta'.
Yn ôl Elfed Roberts: "Bydd gennym stondin Gŵyl Llên Plant ar y Maes gyda nifer o'r gweithgareddau'n cael eu cynnal yma, ond bydd digwyddiadau'n digwydd ar hyd a lled y Maes - rhai yn ein hadeiladau ni ac eraill mewn stondinau partneriaid.
"Roedd yn bwysig iawn i ni ein bod ni'n cynnal gweithgareddau mewn gwahanol lefydd ar y Maes ac yn rhannu perchnogaeth yr Ŵyl gyda llyfrwerthwyr, cyhoeddwyr a phartneriaid o bob math.
"Er mai arbrawf yw'r Ŵyl Llên eleni, rydym yn mawr obeithio y bydd yn llwyddiant ac y bydd yn rhywbeth sy'n esblygu a datblygu'n flynyddol o hyn ymlaen."